Hofrennydd yn achub dyn o glogwyn yn Llanbedrog, Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, AFP/getty images
Mae dyn yn ei arddegau wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei achub o glogwyn yng Ngwynedd.
Roedd hofrennydd yr Awyrlu yn Llanbedrog am y rhan fwyaf o brynhawn ddydd Mawrth yn ceisio achub y dyn 18 oed ddisgynnodd 10 troedfedd o glogwyn.
Cafodd timau Gwylwyr y Glannau hefyd eu galw i'r digwyddiad.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond nid yw'n glir pa mor ddifrifol yw ei anafiadau.