Democratiaid Rhyddfrydol 'wedi arbed £1bn i Gymru' yn ôl Nick Clegg

Published
image copyrightPA

Byddai cynllun y Ceidwadwyr i amrywio tâl yn y sector cyhoeddus mewn ardaloedd gwahanol wedi tynnu dros £1 biliwn o economi Cymru, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Mae Mr Clegg yn ymgyrchu yng Nghymru ddydd Mercher, a dywedodd bod gweinidogion ei blaid wedi gwrthod cefnogi cynlluniau fyddai wedi "torri" cyflogau yng Nghymru.

Roedd ffigyrau blaenllaw o'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr hefyd yn ymgyrchu yng Nghymru.

Yn 2011, fe wnaeth Mr Osborne ofyn i gyrff sy'n adolygu cyflogau ystyried dod â threfniadau tâl cenedlaethol i ben, wedi awgrym na all gyflogwyr preifat gynnig yr un lefel o dal.

Dywedodd ei fod wedi newid ei feddwl yn ei Ddatganiad Hydref yn 2012.

Cyflogau

Cyn ei ymweliad â Chymru, dywedodd Mr Clegg bod ei blaid wedi "arwain yr ymgyrch" yn erbyn y syniad.

"Heb y Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym, byddai'r Torïaid wedi cymryd dros biliwn o bunnau allan o economi Cymru, gan dorri cyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus," meddai.

Mae'r blaid yn honni bod y ffigyrau wedi eu seilio ar wybodaeth y Swyddfa Ystadegau yn dangos bod 370,000 o bobl yn gweithio yn y sector gyhoeddus yng Nghymru, a bod gwahaniaeth o £3,750 yng nghyflogau'r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Roedd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, y Ceidwadwr Jeremy Hunt, hefyd yng Nghymru ddydd Mercher.

Roedd yn feirniadol o Lywodraeth Llafur Cymru gan ddweud y byddai Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd pe bai'n gweld cyflwr y GIC yng Nghymru.

Dadl deledu

Yn y cyfamser, mae llefarydd Llafur ar heddlua, Jack Dromey wedi bod yng Nghymru yn rhybuddio am doriadau i niferoedd heddweision os yw David Cameron yn parhau'n brif weinidog.

Nos Fercher, bydd y ddadl deledu gyntaf rhwng arweinwyr Cymreig y prif bleidiau yn cael ei chynnal.

Stephen Crabb fydd yno ar ran y Ceidwadwyr, gydag Owen Smith i Lafur, Kirsty Williams i'r Democratiaid Rhyddfrydol, Leanne Wood i Blaid Cymru, Nathan Gill i UKIP a Pippa Bartolotti i'r Blaid Werdd.

Dywedodd Plaid Cymru fod Ms Wood yn edrych ymlaen at wynebu "lleisiau San Steffan" yn y ddadl.

Dywedodd: "Rwyf wedi ei gwneud yn glir y bydd Plaid Cymru yn cydweithio gydag unrhyw bleidiau blaengar i roi diwedd ar lymdra ac i gydbwyso grym a chyfoeth drwy'r DU, a sicrhau cyllido mwy teg i Gymru."