Pryder am swyddi iogwrt Rachel's Dairy yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Fe allai swyddi fod yn y fantol yn Aberystwyth ar ôl i Tesco gyhoeddi na fyddant yn gwerthu iogwrt Rachel's Dairy yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi dechrau ar gyfnod o ymgynghori 30 diwrnod ynglŷn â diswyddiadau posib. Mae'r ffatri ar ystâd ddiwydiannol Glan yr Afon yn y dref ac mae'n cyflogi 92 o weithwyr ar hyn o bryd.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn trafod lleihau oriau gweithio.
Dywedodd llefarydd: "Fel busnes rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau prynwyr newydd ar ôl colli cytundeb Tesco, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith y cyhoeddiad ar ein cwsmeriaid a'r gweithlu."
Mae disgwyl i Tesco roi'r gorau i werthu iogwrt Rachel's Dairy ddiwedd Ebrill.
Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: "Rydyn ni'n falch o weithio gyda 70 o gynhyrchwyr lleol sy'n cyflenwi 450 o gynhyrchion i'n cwsmeriaid.
"Rydyn ni bob tro yn gwrando ar yr hyn mae ein cwsmeriaid eisiau ac yn adolygu'r cynnyrch yr ydyn yn ei gynnig i sicrhau bod gyda ni'r gwerth am arian a'r dewis gorau posib.
"Bydd cynnyrch Rachel's Dairy yn dal i fod ar gael mewn rhai siopau yng Nghymru."
Cafodd cwmni gwreiddiol Rachel's Dairy ei sefydlu yn y 1980au gan Rachel Rowlands a'i gŵr Gareth.
Yn 2010 cafodd ei werthu i gwmni Dean Foods o'r Unol Daleithiau yn 2010, ac yna i gwmni Lactalis o Ffrainc yn 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2010