Tynnu enw parafeddyg o gofrestr am gelwydd galwad 999
- Cyhoeddwyd

Mae parafeddyg wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr am ddweud celwydd am alwad 999 ar ôl cael ei ddal yn goryrru.
Cafodd Philip Garrod, 43, ei ddal yn gyrru 105 m.y.a. ar ei feic modur mewn ardal 60 m.y.a. ym mis Ebrill 2011.
Ceisiodd Garrod osgoi'r ddirwy o £650 a chwe phwynt ar ei drwydded drwy ddweud ei fod ar ei ffordd i ateb galwad brys ar yr A470 yn Nolgellau.
Clywodd y gwrandawiad disgyblu yng Nghaerdydd bod Garrod wedi creu cofnod clinigol ar gyfer y digwyddiad ffug i gefnogi ei honiad.
Ond cafodd Garrod - parafeddyg am 10 mlynedd - ei ddal ar ôl i reolwyr weld dim cofnod o alwad 999 ar y diwrnod cafodd ei ddal yn goryrru.
Dywedodd adroddiad ar ran y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal bod "ei weithred yn fwriadol" ac y byddai'n "cael ei ystyried yn anonest gan safonau pobl resymol ac onest".
Nid oedd Garrod, sy'n dad i ddau o blant, yn y gwrandawiad, ond dywedodd mewn datganiad ei fod wedi "cymysgu'r dyddiadau".
Roedd wedi gwadu pum honiad yn ymwneud a rhoi datganiadau ffug a chreu cofnod claf ffug.
Ond cafodd ei enw ei dynnu o'r gofrestr ar ôl ei gael yn euog o gamymddwyn.