Dau yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio yn Nhonypandy

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, South Wales Police
disgrifiad o’r llunBu farw Wayne Letherby yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Pontypridd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn o Donypandy nos Wener.

Fe wnaeth Dean Doggett a Jamie Leyshon, y ddau yn 26, siarad i gadarnhau eu henwau a'u cyfeiriadau yn unig yn y gwrandawiad byr.

Clywodd ynadon bod y ddau wedi eu cyhuddo ar y cyd o lofruddio Wayne Letherby, 42, a hefyd o gyhuddiad o anafu.

Bydd y ddau ddyn yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful, fydd yn eistedd yng Nghaerdydd, ddydd Iau.

Cafodd y ddau ddyn eu cadw yn y ddalfa.

Straeon perthnasol