Tocynnau ar werth ar gyfer Prifwyl Maldwyn a'r Gororau

  • Cyhoeddwyd
EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ei chynal fis Gorffennaf diwetha'

Mae tocynnau wedi mynd ar werth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod, gyda 100 diwrnod i fynd tan fydd yr ŵyl yn agor ei drysau.

Yr wythnos ddiwetha' fe gyhoeddodd yr Eisteddfod y byddai yna fwy o gerddoriaeth nag erioed ym Mhrifwyl 2015.

Wrth i'r tocynnau fynd ar werth ddydd Mercher, dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, fod yr ymateb wedi bod yn "wych".

Meddai: "Mae hi wedi bod yn eithriadol o brysur ar-lein ac ar y llinell docynnau - mae'n amlwg bod pawb yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod a bod y cyngherddau hefyd yn apelio at gynulleidfa eang.

"Rydym yn edrych ymlaen yn arw i groesawu nifer fawr o bobl i Feifod ymhen 100 diwrnod, a chofiwch fynd ati i brynu eich tocynnau'n gynnar er mwyn cymryd mantais o'r bargeinion a sicrhau eich sedd yn y cyngherddau.

"Mae'n argoeli i fod yn wythnos dda!"

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Elin Fflur yn perfformio yn y cyngerdd ar nos Sadwrn cynta'

Dyma fanylion y cyngherddau yn ystod yr wythnos:

Nos Wener 31 Gorffennaf - Cwmni Theatr Maldwyn yn cyflwyno Gwydion, sioe wreiddiol newydd gan Penri Roberts, Gareth Glyn a'r diweddar Derec Williams.

Nos Sadwrn 1 Awst - Croeso Corawl!: Elin Fflur, Joshua Mills, Bois y Steddfod a chorau cymunedol yr ardal, a cherddorfa gyfoes, dan arweiniad Jeffrey Howard, mewn cyngerdd fydd yn cynnwys dathliad o gyfraniad y diweddar Rhys Jones i fyd cerddoriaeth Cymru.

Nos Sul 2 Awst - Cymanfa Ganu yn y Pafiliwn.

Nos Lun 3 Awst - Noson Lawen Maldwyn a'r Gororau: Ifan Jones Evans yn cyflwyno Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Côr Godre'r Aran, Cantorion Colin Jones, Linda Griffith, Plethyn, Eilir Jones, Steffan Harri, Ieuan Jones, Tri Tenor Trefaldwyn, Aeron Pughe, Meilir Jones a Huw Tudur Pughe, Sorela ac Ysgol Theatr Maldwyn.

Nos Fawrth 4 Awst- Gwerin: Plu, Calan, Arfon Gwilym, Sioned Webb, Gwenan Gibbard, Gareth Bonello, Robin Huw Bowen, Stephen Rees, 9Bach Bach a Georgia Ruth gyda Siân James yn Gyfarwyddwr Artistig a Geraint Cynan yn Gyfarwyddwr Cerdd.

Nos Iau 5 Awst - Cerddoriaeth Ffilm a Theledu: John Owen-Jones, Côr CF1, Luke McCall a Rhian Lois gyda Cherddorfa John Quirk.

Nos Fercher 3 Awst a Nos Wener 6 Awst - Cynhelir nosweithiau o gystadlu yn y Pafiliwn, gan ddechrau am 18.30.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Plu yn rhan o noson werinol ar y nos Fawrth

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol