BBC Cymru Fyw

Diffodd tân anferth ger Crosskeys

Published
image copyrightSimon Latham

Mae tân gwair anferth ger Crosskeys, wedi cael ei ddiffodd.

Roedd diffoddwyr tân wedi bod yn gweithio drwy'r nos i geisio amddiffyn cartrefi rhag tân mawr ar fryn yn Sir Caerffili.

Ar un pryd roedd hofrennydd yn cludo dŵr i helpu'r diffoddwyr i fynd i'r afael â'r tân yn Wattsville.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod y tân wedi'i gynnau'n fwriadol, gan effeithio ar tua 300 hectar (741 erw), sy'n golygu mai hwn yw'r tân mwyaf o'i fath eleni.

Cafodd 12 injan dân eu hanfon i'r digwyddiad nos Fercher.

Mae diffoddwyr tân yn ne Cymru wedi mynd i'r afael â dros 620 o danau bwriadol ers 1 Ebrill.

image copyrightSimon Latham

Straeon perthnasol

  • Tanau: Trigolion yn cynorthwyo diffoddwyr