Dynes 71 oed yn wynebu colli ei chartref

  • Cyhoeddwyd
Beryl Larkin

Mae dynes 71 oed yn wynebu gweld y garafan sy'n gartref iddi yn cael ei chwalu yn dilyn anghydfod maith gyda chynllunwyr cyngor Sir y Fflint.

Mae Beryl Larkin wedi byw yn ei charafan yn Nhreuddyn, ger Yr Wyddgrug, ers 19 mlynedd.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi'i herlyn ddwywaith am fethu â chydymffurfio gyda rhybudd gorfodi y derbyniodd ym mis Ionawr 2001.

Mae'r cyn-nyrs wedi dweud bod llythyr gan y cyngor yn ei chynghori i symud ei heiddo o'r garafan erbyn 9 Mai, pan fydd y peiriannau'n cyrraedd y safle.

Dywedodd ei bod hi wedi cael ar ddeall y gallai wneud trefniadau i symud y garafan o'r safle, yn hytrach na'i bod yn cael ei chwalu.

Mae Mrs Larkin wedi dweud ei bod am dderbyn cyngor cyfreithiol, a'i bod yn gobeithio y byddai'r cyngor yn newid eu meddwl.

Dywedodd nad oedd hi'n gallu deall pam nad oedd y cyngor yn fodlon rhoi caniatâd cynllunio personol iddi, er mwyn iddi allu parhau i fyw yn ei chartref.

Mae cynllunwyr wedi dweud nad yw Mrs Larkin wedi gwneud unrhyw ymgais i gydymffurfio gyda'r rhybudd gorfodi blaenorol, a bod y pwyllgor cynllunio wedi penderfynu ym mis Hydref 2013 y dylid gweithredu.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi ceisio cael Mrs Larkin i gydymffurfio'n wirfoddol, ond ei bod hi'n amharod i gydweithio.