Diffoddwr tân yn y llys wedi marwolaethau pump o bobl
- Cyhoeddwyd

Bu farw Lee-Ann Shiers ei phartner Liam Timbrell a'u mab, Charlie yn ogystal a nai Ms Shiers, Bailey a'i nith, Skye yn y digwyddiad
Bydd diffoddwr tân, oedd yn berchennog ar dŷ lle bu farw pump o bobl mewn tân, yn ymddangos gerbron llys yn ymwneud a'r digwyddiad.
Roedd Jay Brenton Liptrot, 43, ymysg y cyntaf i gyrraedd y tŷ pan ddigwyddodd y tân ym Mhrestatyn ym mis Hydref 2012.
Mi wnaeth Mr Liptrot roi tystiolaeth yn yr achos llys yn erbyn un o'i denantiaid, Melanie Smith.
Fe gafodd y rheithgor Smith yn euog o bum cyhuddiad o lofruddio.
Bydd Mr Liptrot yn ymddangos gerbron ynadon Prestatyn ddydd Gwener.
Bu farw Lee-Ann Shiers, 20 oed, ei phartner, Liam Timbrell oedd yn 23 oed, eu mab, Charlie oedd yn 15 mis, nai Ms Shiers, Bailey oedd yn bedair oed, a'i nith, Skye oedd yn ddwy oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2013