Twyll clwb rygbi: Dedfryd wedi'i gohirio
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-drysorydd clwb rygbi wedi derbyn dedfryd o 15 mis o garchar wedi'i gohirio wedi iddi ddwyn £16,000 gan y clwb.
Cafodd Diane Roberts, 33 oed, ei phenodi fel trysorydd er mwyn ceisio arbed arian yng Nghlwb Rygbi Llanilltud Fawr, ond fe wnaeth hi ddwyn o'r clwb dros gyfnod o dros 20 mis, gan olygu bod y clwb bron â mynd i'r wal.
Plediodd Roberts, o Drebefered, yn euog i dwyll.
Fe wnaeth hi osgoi cael ei hanfon yn syth i'r carchar wedi i Lys y Goron Caerdydd glywed bod yr arian yn cael ei ad-dalu.
Clywodd y llys bod Roberts wedi dwyn yr arian o'r clwb rhwng mis Mawrth 2012 a Thachwedd 2013, ond y byddai'n cael ei ad-dalu i'w cyfrif erbyn bore Gwener.
Roedd hi wedi cymryd symiau o £500 yn rheolaidd gan ddweud bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu gweithwyr, pan nad oedd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar wedi'i gohirio, derbyniodd Roberts orchymyn i gyflawni 100 awr o waith di-dâl a mynychu cwrs 'meddwl yn gadarnhaol'.