Saith Diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard sydd yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Gyda gwylwyr ym mhob cwr o Gymru'n mwynhau cystadleuaeth Côr Cymru'r wythnos ddiwethaf, mae Cefin Roberts ar Cymru Fyw yn trafod rhinweddau cystadlu.

Mae sawl un wedi gofyn iddo pam bod angen llusgo corau o un pen y byd i'r llall i gael eu beirniadu a byw yng nghanol y cythraul canu bondigrybwyll.

Ond fel y dywed Cefin, does dim rhaid i neb gystadlu, ac mae'n cymharu'r gwaith caled o drefnu nosweithiau eich hun, gyda neuaddau lleol hanner gwag a phawb ond y rhieni yn gwarafun prynu tocyn i wrando ar gôr nad oedd neb wedi clywed amdanyn nhw ar y naill law, ac ar y llaw arall cymryd rhan mewn cystadleuaeth, gyda neuadd lawn a barn ambell feirniad doeth yn gymorth ichi wella a chodi eich safonau.

O Ganolfan y Mileniwm a Neuadd Albert, ac o Fethesda i China, yn ôl Cefin, fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl rhoi'r holl gyfleon yma i'n pobl ifanc heb fentro i lwyfan cystadleuol. Iddyn nhw, mae cystadlu'n werth y byd.

Image copyright ITV
Image caption Cefin a chôr Glanaethwy yn creu argraff ar Simon Cowell a'i gyd-feirniaid ar 'Britain's Got Talent'

Gwerth crefydd

Beth yw gwerth crefydd? Yn ôl Cris Dafis yng nghylchgrawn Golwg, os nad yw crefydd yn werth rhyw hanner can punt y flwyddyn, pa werth sydd iddi o gwbl?

Ymateb mae'r colofnydd i ddicter nifer o aelodau capeli yng Nghaerfyrddin am eu bod wedi derbyn dirwy am barcio'n anghyfreithlon ar linellau melyn dwbl yn y dref neu heb docyn mewn maes parcio.

Roedd rhai'n honni bod disgwyl i bobl dalu am barcio tra yn y capel neu'r eglwys yn dreth ar grefydd, neu hyd yn oed yn erledigaeth ar Gristnogion.

Ond dyw Cris ddim yn deall pam ar y ddaear y dylai pobl gael parcio am ddim i fynd i'r capel, tra bo rhaid i bawb arall dalu am barcio i ddilyn eu diddordebau.

A thra bo nifer o bobl, yn ôl yr adroddiadau, wedi cael siom a sioc bod rhaid iddyn nhw ddilyn yr un cyfreithiau lleol â meidrolion y dref, yr unig beth sy'n sioc yn ôl Cris yw bod wardeiniaid traffig wedi troi llygad ddall at dramgwyddau parcio capelwyr ac eglwyswyr cyhyd.

Acen anodd ei chuddio

Ar Cymru Fyw, yn ôl y cyn-actor a chyhoeddwr Frank Lincoln, mae dipyn o ragfarn yn wynebu pobl oherwydd eu hacen wrth siarad.

Fel actor yn y chwedegau a'r saithdegau meddai, bu'n rhaid iddo geisio meistroli acen weddol niwtral wrth siarad Saesneg, a dysgu acenion ardaloedd a gwledydd eraill hefyd.

Dyw hynny ddim yn hawdd i Gymro Cymraeg ei iaith yn ôl Frank, oherwydd mae'n acen anodd ei chuddio ac yn anodd trawsosod un arall drosti.

Ond er ei fod yn honni bod acen naturiol weithiau'n gyfystyr â llefaru blêr, anniben, slebogaidd, nid yw o blaid ceisio newid. Wedi'r cyfan, acen sy'n diffinio pwy yn union ydyn ni, sy'n cyfleu yn well na dim arall o ble 'ryn ni'n dod, a'r cefndiroedd sy' wedi ein dylanwadu.

A'r gwir yw, meddai, nad yw Prydain yn clywed digon o acenion Cymreig - mae angen llawer mwy ohonyn nhw.

Image caption Mae Alex Jones yn defnyddio ei hacen Gymreig naturiol wrth gyflwyno rhaglenni'r BBC

Mr Chicken yn 10 Downing

Ond diwrnod nawddsant Lloegr, Sant Siôr oedd hi ddoe, a chyflwynodd Cymru Fyw ambell ffaith ryfeddol ac anarferol am y wlad drws nesaf.

Gyda llai na phythefnos tan yr etholiad cyffredinol, dyma'r un dynnodd fy sylw i - wyddech chi mai'r dyn olaf i fod yn berchen ar rif 10 Downing Street cyn i Brif Weinidogion ddechrau byw yna oedd gŵr o'r enw Mr Chicken?

Dwi'n siŵr bod yna wers yn fanna rhywle, ond dwi ddim yn siŵr beth…