Dau wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam

Ffordd Cefn Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Ffordd Cefn yn ardal Abenbury ychydig ar ôl 14:00 brynhawn Iau

Mae dau o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws ger Wrecsam.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Ffordd Cefn yn ardal Abenbury ychydig ar ôl 14:00 brynhawn Iau.

Cafodd y ddau berson oedd yn teithio yn y car eu lladd, ac mae dau o'r teithwyr oedd ar y bws, a'r gyrrwr, wedi dioddef man anafiadau.

Mae'r ffordd ar gau ond mae disgwyl iddo ailagor nos Iau.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion eu ffonio nhw ar 101.