Disgwyliadau Dydd y Farn

  • Cyhoeddwyd
Dydd y Farn IIIFfynhonnell y llun, WRU

25 Ebrill yw Dydd y Farn! Wel, i ranbarthau rygbi Cymru o leiaf. Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru sy'n edrych ymlaen at un o uchafbwyntiau'r tymor:

Am unwaith efallai bod y teitl "Dydd y Farn" yn gwbwl addas ar gyfer y ddwy gêm dderbi Gymreig yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

Dan y chwyddwydr

I raddau mae rygbi rhanbarthol Cymru'n cael ei farnu'r penwythnos hwn. Mae digon o son wedi bod yn y golofn hon a myrdd o golofnau eraill dros y misoedd diwetha' am dranc y gêm yng Nghymru a'r modd ni'n colli tir i sawl gwlad o dan y lefel rhyngwladol.

O leia' mae Dydd y Farn III wedi dal dychymyg y cyhoedd i'r graddau bydd y dorf fwya' erioed yn y Stadiwm ar gyfer gem ranbarthol - dros hanner can mil.

Mae rhai ohonom ni'n cofio'r dyddiau pan oedd pob sedd yn yr hen stadiwm wedi'u gwerthu pa bynnag dimau oedd yn chwarae yn ffeinal y Cwpan - Ponty, Llanelli, Abertawe, Castell Nedd ac mewn gwirionedd fe ddylai'r stadiwm newydd fod yn llawn dop hefyd gyda pob un o ranbarthau Cymru yno - ond hei un cam ar y tro!

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Gyda dros 50,000 o docynnau wedi eu gwerthu, bydd 'na wledd i'w chael yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn!

Saith pwynt

Nawr mae hi lan i'r chwaraewyr i gyflwyno arlwy deilwng a does dim diffyg abwyd.

Dim ond saith pwynt sydd angen ar y Gweilch yn eu tair gêm olaf i sicrhau'u lle yn y pedwar ucha' ond y targed iddyn nhw yw gem gartre yn y rownd gynderfynol.

Dyn nhw ddim wedi colli yn eu pedair gêm gynghrair ddiwetha' ac fe ddangoson nhw'r cymeriad a'r aeddfedrwydd yn Treviso i droi colled bosib ar ôl awr yn fuddugoliaeth a phwynt bonws.

Mae saith pwynt yn ffigwr arwyddocaol i'r Gleision hefyd. Dyna'r bwlch rhyngddyn nhw a'r Dreigiau.

Cysur bach fyddai llwyddo i orffen uwchben eu cymdogion dwyreiniol ond mae hi wedi bod yn dymor mor drychinebus i dîm y brifddinas nes bod unrhyw beth y gallen nhw gydio ynddo yn cynnig cysur o ryw fath.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cyfle i Eli Walker a Tyler Morgan profi eu hun? Bydd Warren Gatland yn gwylio!

Llygad barcud Warren Gatland

Edrych am gysur fydd y Dreigiau hefyd ar ôl siom y perfformiad yn Rownd Gynderfynol y Cwpan Her. Mewn gwrthgyferbyniad a'r Gweilch roedd diffyg profiad a diffyg arweiniad y Dreigiau ifanc yn boenus o amlwg yn Murrayfield.

Bydden nhw'n awyddus i brofi i'w cefnogwyr a nhw'u hunain eu bod nhw'n dîm y presennol yn ogystal â thîm i'r dyfodol.

Ac mae her y Scarlets yn un amlwg - rhaid gwneud yn well na Connacht a Chaeredin dros y tair gêm ola' neu wynebu'r posibilrwydd o beidio bod ym mhrif gystadleuaeth Ewrop am y tro cynta' yn eu hanes.

Rhaid cael gwared ar yr anghysondeb sy'n golygu mai ond unwaith eleni maen nhw wedi ennill dwy gêm gynghrair o'r bron.

Yn gefndir i hyn oll wrth gwrs mae'r ffaith y bydd Warren Gatland, Rob Howley a gweddill tîm hyfforddi Cymru yno yn bwrw llygad fanwl ar bawb wrth lunio carfan ymarfer o 45 ar gyfer Cwpan y Byd - carfan fydd yn cael ei chyhoeddi mewn 6 wythnos.

Hen fwy na digon i annog ac ysbrydoli. Mae'r gwobrau i unigolion a thimau yn fawr. Mae'r beirniaid yn barod - caewch y drysau, caewch y to - mae Dydd y Farn wedi cyrraedd i rygbi Cymru!

Gleision v Gweilch, 14:30, Scrum V ar BBC 2 Wales

Dreigiau v Scarlets, 16:45, Clwb Rygbi, S4C

Gallwch wrando ar y ddwy gêm hefyd ar Camp Lawn ar BBC Radio Cymru.