Tri heddwas yn gwadu dwyn £30,000
- Cyhoeddwyd

Christopher Evans, Stephen Phillips a Michael Stokes yw'r plismyn wedi'u cyhuddo o ddwyn
Mae tri heddwas wedi gwadu dwyn dros £30,000 yn ystod cyrch.
Mae'r heddweision gyda Heddlu De Cymru wedi eu cyhuddo o gymryd arian o gartref dyn oedd yn cael ei amau o droseddu.
Mae'r cyn Dditectif Sarjant Stephen Phillips, 46, o Abertawe, a PC Christopher Evans, 37, o Langennech, Sir Gaerfyrddin a PC Michael Stokes, 34, o Lyn Nedd, Castell-nedd Port Talbot yn gwadu honiad o ddwyn.
Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechniaeth i ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mehefin.
Clywodd y llys fod y tri wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad gan adran safonnau proffesiynnol Heddlu De Cymru. Mae'r ymchwiliad hwnnw yn parhau.