Cyffuriau: Gwahardd aelod o staff ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cadarnhau bod aelod o staff ysgol gynradd wedi ei hatal o'i gwaith ar ôl i gyffuriau gael eu darganfod ar safle ysgol.

Dywed Heddlu Gwent fod y ddynes wedi derbyn rhybudd am fod a chyffur 'dosbarth B' yn ei meddiant.

Cafodd yr heddlu eu galw i ysgol Willowtown fis diwethaf.

Fe wnaeth dynes 45 oed fynd o'i gwirfodd i orsaf heddlu Tredegar lle dderbyniodd y rhybudd.

Mewn datganiad dywedodd y cyngor: "Fe allai cyngor Blaenau Gwent gadarnhau ein bod yn ymwybodol o ddigwyddiad yn yr ysgol sydd wedi arwain at wahardd aelod o staff.

"Rydym yn trin digwyddiadau o'r fath fel rhai hynod ddifrifol. Mae'r ysgol a chorff llywodraethol yr ysgol yn delio gyda'r mater, a hynny gyda chefnogaeth y cyngor. Ni allwn wneud unrhyw sylw pellach."