Etholiad 2015: 'Pleidleisiau Lloegr yn unig'
- Cyhoeddwyd

Fe fyddai cynllun i alluogi ASau o Loegr yn unig i bleidleisio ar faterion sy'n effeithio ar Loegr yn unig, yn ei le erbyn Cyllideb gyntaf llywodraeth Geidwadol, meddai David Cameron.
Fe addawodd "gyfradd treth incwm i Loegr" - er y gallai ddod i rym yng Nghymru a Gogledd Iwerddon - unwaith y byddai rhagor o bwerau wedi eu datganoli i'r Alban.
Mae'r blaid Geidwadol eisiau rhoi rhagor o ddylanwad i ASau o Loegr ar faterion sy'n effeithio ar Loegr yn unig.
Yn ôl Mr Cameron, os nad yw'r rheolau presennol yn newid: "Fydd ASau Saesneg ddim yn gallu pleidleisio ar y dreth incwm mae pobl yn Aberdeen a Chaeredin yn ei dalu, tra bo ASau o'r Alban yn parhau i allu dylanwadu ar y dreth yn Birmingham, Caergaint neu Leeds.
"Yn syml, mae'n annheg. Drwy newid y drefn, fe wnawn ni'n iawn am hynny."
Craffu
Yn rhan o gynllun y Ceidwadwyr, byddai ASau o'r genedl sy'n cael ei heffeithio gan fesur neu ddeddf, yn cael rhagor o ddylanwad yn y broses graffu.
Yn ogystal, byddai'n rhaid i bwyllgor o ASau o Loegr - neu Loegr a Chymru ar rai materion - gymeradwyo unrhyw ddeddf sy'n ymwneud â'r genedl honno.
Dywedodd Owen Smith o'r Blaid Lafur: "Ddylai'r Torïaid ddim troi'r etholiad yn ffrae rhwng y pedair cenedl.
"Mae'r Ceidwadwyr mor desbret an yr etholiad fel eu bod nhw'n barod i roi undod y DU yn y fantol. Nid Lloegr yn erbyn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yw'r etholiad 'ma.
"Mae Llafur yn sefyll dros undod - fe fydd ein treth ni ar blastai'r miliwnyddion yn trosglwyddo arian yn ôl i'r rhannau hynny o Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae angen buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus."
'Ffafrio o ran egwyddor'
Meddai Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru: "'Dy ni'n ffafrio'r cynllun o ran egwyddor, gan ein bod ni'n credu y dylai gwleidyddion yn Lloegr bleidleisio ar faterion yn effeithio ar Loegr - ond mae 'na broblem gan fod y system bresennol yn golygu y gallai penderfyniadau am Loegr effeithio'n ariannol ar Gymru, hefyd."
Mae'r Democratiaid Rhyddfryfol yn ffafrio pwyllgor o ASau o Loegr, gyda'r hawl i atal deddfau sy'n effeithio ar Loegr yn unig, ac aelodaeth y pwyllgor wedi ei selio ar gyfran deg o'r bleidlais.