Gleision 23-31 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Wedi llai na 10 munud aeth y Gleision ar y blaen diolch i gic gosb lwyddiannus gan Gareth Anscombe.
O fewn munudau roedd Anscombe wedi ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm y Gleision, cyn iddo wneud yr un peth wedi bron i hanner awr o chwarae.
Cyn diwedd yr hanner sgoriodd Dan Evans gais i'r Gweilch, a llwyddodd Dan Biggar gyda'r trosiad.
Cychwynnodd yr ail hanner yn union yr un modd gwnaeth y cyntaf ddod i ben, gyda chais i'r Gweilch, a Dan Biggar yn ychwanegu saith pwynt i'w cyfanswm.
Pum munud yn ddiweddarach llwyddodd Tom Grabham gyda thrydedd cais i'r Gweilch, a llwyddodd Biggar gyda'i drydydd trosiad.
O'r diwedd sgoriodd y Gleision eu cais cyntaf, diolch i Josh Navidi.
Ychwanegodd Biggar dri phwynt arall i fantais y Gweilch, cyn i Ben John sgorio eu pedwerydd cais.
Sgoriodd Dan Fish gais i'r Gleision ym munud olaf y gêm, ond nid oedd hynny'n ddigon i atal buddugoliaeth i'r Gweilch.