Newcastle 2-3 Abertawe
- Published
image copyrightGetty Images
Er gwaethaf sawl cyfle i'r ymwelwyr ar gychwyn y gêm, Newcastle lwyddodd i ganfod cefn y rhwyd gyntaf, gyda gôl gan Ayoze Perez.
Mi wnaeth Abertawe ddisgwyl tan funudau olaf yr hanner cyntaf i ddod â phethau'n gyfartal, wrth i Nelson Oliviera ganfod cefn y rhwyd.
Yn gynnar yn yr ail hanner llwyddodd Abertawe i ddyblu eu mantais, diolch i gôl gan Gylfi Sigurdsson.
Sgoriodd Jack Cork drydedd gôl i'r ymwelwyr ar ôl 71 munud.
Ym munudau olaf y gêm llwyddodd Siem de Jong i ganfod cefn y rhwyd i Newcastle, ond roedd hi'n rhy hwyr i atal buddugoliaeth Abertawe.