Caerdydd 3-2 Blackpool
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Caerdydd sgoriodd gyntaf wrth i Joe Mason ganfod cefn y rhwyd wedi llai na 20 munud.
A dyblodd y tîm cartref eu mantais wrth i Eoin Doyle lwyddo gyda chic o'r smotyn.
Ym munudau cyntaf yr ail hanner, sgoriodd Andrea Orlandi i Blackpool.
Ond sgoriodd Doyle ail gic o'r smotyn wedi 76 munud.
Ym munudau olaf y gêm gwnaeth Peter Clarke ganfod cefn y rhwyd i Blackpool, ond roedd buddugoliaeth Caerdydd eisoes yn ddiogel.