Brodyr o Gymru ar goll yn Nepal

  • Cyhoeddwyd
Gwersyll CyntafFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Y difrod yn y Gwersyll Cyntaf yn dilyn yr eirlithradau

Mae pryder am ddau frawd o ogledd Cymru sydd ar goll yn dilyn daeargryn yn Nepal ddydd Sadwrn.

Aeth Jason Russell o Riwabon, Wrecsam, a'i frawd Darren, 26, ar goll yn dilyn y digwyddiad. Mae ffrind arall i'r ddau, Daniel Hughes, 36, o Wrecsam hefyd ar y rhestr swyddogol o bobl sydd ar goll.

Mae pryder hefyd am Gymro o Awstralia sydd yn yr ardal o'r enw Huw Alexander Lashmar, 57 oed.

Ond mae dyn oedd yn gobeithio llwyddo i fod y Cymro hynaf i gyrraedd copa Everest wedi goroesi'r daeargryn tra'r oedd o'n dringo'r mynydd.

Roedd Mike Hopkins, 56 oed o Gaerdydd, wedi cyrraedd Gwersyll 1 pan ddigwyddodd y daeargryn oedd yn mesur 6.7, ond mae wedi cysylltu gyda'i wraig i ddweud ei fod yn ddiogel.

Mae mwy na 2,000 o bobl wedi marw yn dilyn y daeargryn ddydd Sadwrn a chafwyd ôl-gryniad ddydd Sul.

Ar fynydd Everest mae 17 o bobl wedi marw mewn eirlithradau.

Ffynhonnell y llun, Sarah Hopkins
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mike Hopkins yn gobeithio llwyddo i fod y Cymro hynaf i gyrraedd copa Everest

'Diwrnod trawmatig'

Mi wnaeth Mr Hopkins gysylltu â'i wraig Sarah yn dilyn beth mae hi'n disgrifio fel "diwrnod trawmatig" ddydd Sadwrn.

Dywedodd Mrs Hopkins, sy'n byw yn Yr Eglwys Newydd: "Mi wnaethon nhw deimlo'r cryndod, ac mi wnaeth o ysgwyd popeth, ond maen nhw'n ddiogel.

"Mi wnaeth o lwyddo i fy ngalw i am ddau funud ar ffôn lloeren. Roedd o'n gwybod y byddwn i'n poeni.

Dywedodd Mrs Hopkins bod ei gŵr mewn grŵp o naw o ddringwyr a Sherpas oedd ar ochr ogleddol Everest.

Dywedodd ei gŵr wrthi fod pawb yn ddiogel a'u bod wedi dychwelyd i'r Gwersyll Cyntaf, sy'n 17,000 troedfedd (5,180m) o uchder.

Timau achub

Mae timau achub a chyflenwadau brys wedi dechrau cyrraedd y wlad yn dilyn y daeargryn. Roedd canolbwynt y daeargryn 60km (40 milltir) i'r dwyrain o brifddinas Nepal, Kathmandu.

Yn ôl Richard Matheson o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru mae tîm o chwech o'u haelodau gydag arbenigedd achub wedi cyrraedd Kathmadu fore Lun.

"Fe fyddant yn dod a sgiliau achub i amgylchfyd trefol, gan ddelio gydag adeiladau sydd wedi dymchwel ac yn chwilio am ddioddefwyr", meddai.

Mae un o swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd wedi mynd i Nepal i gynorthwyo'r gwaith.

Cymry eraill

Mae adroddiadau bod o leiaf dau berson o Gymru ar goll yn dilyn y daeargryn.

Mae gwefannau yn nodi bod Mr Russell, ynghyd â Huw Alexander Lashmar, credir iddo symud o Gymru i Awstralia, ar goll.

Mae adroddiadau bod ei fab, Jamie Alexander Lashmar, 32 oed, o Victoria, Awstralia, hefyd ar goll yn Nepal.

Roedd adroddiadau blaenorol wedi awgrymu bod Raymond Williams, 60 oed o Gymru, ar goll, ond mae Mr Williams bellach wedi nodi arlein ei fod yn ddiogel.

Mae adroddiadau bod Adrian Summers, Cymro sy'n byw yn Sydney, hefyd yn ddiogel yn dilyn pryderon ei fod ar goll.

Mae nifer o wefannau wedi eu creu er mwyn ceisio cael hyd i bobl yn yr ardal.