Etholiad 2015: Ymgeiswyr etholaeth y ffin

Pont dros y Ddyfrdwy

Mae'r Blaid Lafur wedi cynrychioli Alun a Glannau Dyfrdwy ers i'r etholaeth gael ei chreu yn 1983, ond mae UKIP wedi agor swyddfa yn yr etholaeth gan honni mai nhw yw'r prif fygythiad erbyn hyn.

Mae Glannau Dyfrdwy yn ardal ddiwydiannol ac mae nifer o gyflogwyr mawrion, megis Tata Steel, Airbus a Toyota, wedi eu lleoli yma.

Mae diwydiannau newydd wedi adfywio ardal oedd wedi dioddef degawdau anodd wedi i nifer fawr o swyddi gael eu colli yng ngwaith dur Shotton.

Yn yr etholiad diwethaf, llwyddodd y Ceidwadwyr i leihau mwyafrif y Blaid Lafur, gan dderbyn traean o'r pleidleisiau.

Image caption Mae ymgeisydd Llafur, Mark Tami, wedi bod yn Aelod Seneddol yr ardal am 14 blynedd

Cafodd yr ymgeisydd Llafur, Mark Tami, ei ethol fel Aelod Seneddol Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2001, ac mae wedi cadw'r sedd ers hynny.

Wrth fynd o ddrws i ddrws ym mhentref Mancot, dywedodd ei bod hi'n hanfodol siarad gyda chymaint o etholwyr â phosib yn ystod yr ymgyrch.

Mae llawer yn codi pryderon am faterion sydd wedi eu datganoli, fel iechyd ac addysg, ond mae'n dweud mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am dorri'r arian sy'n cael ei roi i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Prif fygythiad

Dywedodd: "Mae'r cynulliad wedi profi bwlch ariannol enfawr oherwydd nad oes arian yn cyrraedd o San Steffan.

"Yn fwy na hynny, mae'r drefn ariannol annheg sy'n golygu bod Cymru eisoes ar ei cholled yn ariannol.

"Dydyn ni ddim yn derbyn yn agos at faint o arian sydd angen arnom ni, a dyna pam mae angen llywodraeth Lafur arnom ni."

Er bod presenoldeb UKIP yn amlwg yn yr etholaeth, mae'n parhau i ystyried mai'r Ceidwadwyr yw'r prif fygythiad.

Image caption Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr, Laura Knightly, wedi bod yn ymgyrchu ar faterion fel gofal plant

Yn yr etholiad cyffredinol yn 2010, mi wnaeth y Ceidwadwyr leihau mwyafrif y Blaid Lafur i lai na 3,000 o bleidleisiau.

Dywedodd ymgeisydd y blaid, Laura Knightly: "Mae'r ardal yn newid. Does dim ffyddlondeb llwythol i Lafur yma bellach, er efallai bod hyn yn wir yn y gorffennol."

Tra'n ymgyrchu yng Nghei Connah, dywedodd bod gan bobl ddiddordeb mewn beth oedd ganddi i'w ddweud am gynyddu gofal plant, lleihau treth incwm, a gwrthwynebu toriadau i'r gwasanaeth iechyd.

Image caption Mae ymgeisydd UKIP, Blair Smilie, yn hyderus bod gan ei blaid siawns dda o gipio'r sedd

Mae ymgeisydd UKIP, Blair Smillie hefyd yn hyderus.

Dywedodd: "Rydw i'n hyderus y byddwn ni'n gorffen yn gyntaf neu'n ail."

Ychwanegodd bod yr ymateb wedi bod yn "wych" ers i'r blaid agor swyddfa ar Stryd Fawr Shotton ym mis Medi'r llynedd.

Mae Mr Smilie yn or-wyr i un o'r ASau Llafur cyntaf, ond mae'n credu bod UKIP yn deall pryderon pobl leol am fewnfudo.

Dywedodd: "Mae llawer o swyddi gyda chyflogau isel yma, sy'n cael eu llenwi gan bobl o ddwyrain Ewrop.

"Nid eu bai nhw yw'r ffaith eu bod nhw yma, maen nhw'n ceisio gwella eu bywydau.

"Ond mae gwleidyddion wedi caniatau mewnfudo i'r wlad heb sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ac arian ar gael i'w cefnogi."

Image caption Dywedodd Tudor Jones, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, y gall ei blaid 'gymedroli' llywodraeth Lafur neu Geidwadol

Wrth ymgyrchu ym Mwcle, dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tudor Jones, ei fod yn credu y gall ei blaid chwarae rhan allweddol os na fydd un blaid yn llwyddo i ennill mwyafrif ar 7 Mai.

Dywedodd: "Yn dilyn y glymblaid, mae pobl wedi sylweddoli ei bod hi'n debygol y gwelwn ni un arall, ac mae ganddyn nhw ddiddordeb yn y canlyniad posib.

"Nid ydym ni'n blaid sy'n ddigon mawr i lywodraethu ar ben ein hunain, ond gallwn ni 'gymedroli' unrhyw lywodraeth - glas neu goch."

Image caption Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Jacqueline Hurst, yn credu caiff poblogrwydd yr SNP yn Yr Alban effaith ar Gymru

Mae hon yn etholaeth gyda chysylltiadau cymdeithasol ac economaidd cryf gyda gogledd orllewin Lloegr, gan olygu nad yw'n gadarnle traddodiadol i Blaid Cymru.

Ond mae ymgeisydd y blaid, Jacqueline Hurst, yn edrych ar Yr Alban a'r cynnydd yng nghefnogaeth yr SNP i honni nad oes yr un etholaeth tu hwnt i afael Plaid Cymru.

Dywedodd: "Mae pleidiau'r sefydliad yn talu gormod o sylw i beth sydd ar Yr Alban ei angen, yn hytrach na Chymru.

"Mwya'n byd o etholwyr sy'n ein cefnogi - oherwydd mai i Gymru'n unig rydan ni'n rhoi sylw - gorau'n byd. Gallwn ni gael yr un math o lais."

Image caption Mae Alasdair Ibbotson, ymgeisydd y Blaid Werdd, eisiau i'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston gael ei thrydaneiddio

Ymgeisydd y Blaid Werdd yw'r myfyriwr 20 oed, Alasdair Ibbotson. Mae'n dweud y byddai ei blaid yn cefnogi pobl ar gyflogau isel mewn ardaloedd fel Alun a Glannau Dyfrdwy.

Dywedodd: "Byddai'r Blaid Werdd yn cynyddu trethi'r 1% uchaf, gan olygu y byddan ni'n gallu amddiffyn y GIG, troi'r isafswm cyflog yn gyflog byw - £8.10 yr awr, gan godi i £10 erbyn 2020 - a gwella trafnidiaeth gyhoeddus.

"Drwy roi'r rheilffyrdd a bysiau yn ôl yn nwylo'r wlad gallwn ni drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston a lleihau costau tocynnau yn Alun a Glannau Dyfrdwy o 10%."