Dyfodol y Gymraeg yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
kevin campbell
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adroddiad gan Cefin Campbell yn cynnig 90 o argymhellion i'r Gyngor Sir Dinbych

Mae archwiliad o'r defnydd o'r Gymraeg yn Sir Ddinbych wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol yr iaith yn yr ardal.

Mae adroddiad gan yr ymgynghorydd iaith Cefin Campbell yn nodi fod yna berygl o ostyngiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yno - os nad oes yna weithredu'n fuan.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y cyngor sir, ar ôl i ffigyrau'r cyfrifiad diwethaf ddangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych.

Mae cyngor sir Ddinbych wedi disgrifio'r adroddiad fel un uchelgeisiol.

Mae'r archwiliad gan Cefin Campbell yn nodi sawl ffactor sydd wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Addysg Gymraeg

Un ffactor, meddai, yw nad ydi'r twf mewn addysg Gymraeg yn yr ardal yn ddigon i atal dirywiad yr iaith a bod angen i fwy o blant elwa o addysg Gymraeg yn y sir.

Effaith mudo i mewn ac allan o'r sir yw un rheswm arall sy'n cael ei grybwyll.

Mae'r adroddiad yn cynnig 90 o argymhellion i'r Cyngor, gan ychwanegu y byddai eu gweithredu yn rhoi'r iaith ar dir mwy cadarn yn y sir.

Mewn ymateb, mae cyngor sir Ddinbych yn disgrifio'r adroddiad fel un uchelgeisiol - sy'n cynnwys nifer o argymhellion sy'n haeddu ystyriaeth.

Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n eu hystyried yn fwy manwl wrth i Safonau Iaith newydd Llywodraeth Cymru ddod i rym.

'Newidiadau radical'

Dywedodd Aled Powell, cadeirydd rhanbarth lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gafodd ei fagu yn Sir Ddinbych:

"Yn sicr, rydyn ni'n cytuno bod angen newidiadau radical fel bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Ni ddylai'r sir amddifadu'r un plentyn o'r gallu i weithio a chyfathrebu yn Gymraeg.

"Mae rhaid i'r system addysg leol gyflawni hynny. Os yw'r iaith yn mynd i fod yn ffyniannus dylai pob un disgybl gael addysg Gymraeg, a gadael yr ysgol yn rhugl ynddi.

"Hefyd, mae gan y sir fel cyflogwr swyddogaeth bwysig i sicrhau mai'r Gymraeg yw iaith y gweithle. Byddai sicrhau bod y Cyngor yn gweithio'n fewnol drwy'r Gymraeg yn cynyddu'r defnydd ohoni a hefyd sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu drwy'r iaith ym mhob maes gwaith yr awdurdod."