Y dyn 'newidiodd gwrs y rhyfel'

  • Cyhoeddwyd
criw ymarfer sioe gynradd

Yn Eisteddfod yr Urdd eleni, bydd bron i 100 o blant cynradd ardal Caerffili yn cymryd rhan mewn sioe gerdd sydd yn dilyn hanes gŵr lleol o'r enw Glyndwr Michael, wnaeth chwarae rhan allweddol wrth ddod â'r Ail Ryfel Byd i ben.

Ganwyd Glyndwr Michael yn Aberbargoed, a'i gorff marw ef a ddefnyddiwyd yn Operation Mincemeat i dwyllo'r Natsïaid i symud eu byddin o Sicily i Wlad Groeg, gan roi cyfle i Brydain ennill tir allweddol yn Ewrop.

Roedd enw'r corff a ddefnyddiwyd yn Operation Mincemeat yn gyfrinachol nes i'r dogfennau ddod yn wybodaeth gyhoeddus ddiwedd y 90au pan oedd 50 mlynedd wedi pasio ers eu creu.

Yr adeg hynny, daeth i'r amlwg mai Glyndwr Michael o Aberbargoed oedd y corff marw.

Sara Lewis, sydd yn wreiddiol o Aberdâr, o Gwmni Theatr NaNog sydd wedi ysgrifennu ac yn cyfarwyddo sioe 'Y Dyn na fu Erioed', gyda Dyfan Jones, sydd hefyd o Aberdâr, yn Gyfarwyddwr Cerdd ac Elan Issac yn gyfrifol am y coreograffi.

'Gafaelgar'

Dywedodd Sara: "Beth sydd mor afaelgar i fi yw ei fod y cynllun mwyaf llwyddiannus yn hanes yr Ail Ryfel Byd - mae'n allweddol i'n hanes ni i gyd.

"Ian Fleming gafodd y syniad gwreiddiol ar gyfer y cynllun, awdur llyfrau James Bond wrth gwrs, ac roedd yn gynllun eithaf syml. Beth wnaed oedd gwisgo corff marw mewn gwisg arfog, gan roi papurau ffals arno ac yna gadael y corff rhywle y byddai ysbiwyr y Natsïaid yn siŵr o ddod o hyd iddo - a dyna ddigwyddodd, gan arwain i Hitler symud ei fyddin o Sicily i Wlad Groeg.

"Mae Glyndwr Michael yn cael ei ddisgrifio gan amlaf fel gwallgofddyn a chardotyn, ond doeddwn i ddim yn hapus gyda hynny felly yn ein stori ni, pan fo criw o blant yn dechrau bod yn gas gyda ef yn Aberbargoed, mae Owain Glyndwr yn ymddangos, ac yn dweud wrtho ei fod yn mynd i achub y byd.

"Mae ganddo ffrind 'dychmygol' yn ein sioe ni, sef Owain Glyndwr, sydd yn ei warchod. Rydym ni yn ceisio rhoi cyfle i'r gynulleidfa ddod i nabod Glyndwr Michael y person yn hytrach na dim ond meddwl amdano fel corff marw."

Mae bron i 100 o blant o 11 o ysgolion cynradd Caerffili a'r Cylch yn y sioe - ac maent wedi bod yn ymarfer ers dechrau mis Ionawr.

Digwyddiadau od!

Ond ers dechrau ymarfer mae un neu ddau o bethau od wedi bod yn digwydd.

Sara fu'n egluro, "Mi oeddem ni yn chwilio am le i ymarfer ac un dydd ges i alwad gan Brifathrawes Ysgol Bro Sannan yn cynnig lle i ni ymarfer - a nes i ddigwydd holi ar ddiwedd y sgwrs ble yn union oedd yr ysgol - a dyma hithau yn ateb mai yn Aberbargoed!

"Mi oedd gofalwr yr ysgol yn hen gyfarwydd gyda stori Glyndwr Michael, ac mae y tŷ ble cafodd ei eni i'w weld o ddrws yr ysgol ydym ni yn ymarfer!

"A dyw hi ddim yn gorffen fana chwaith - mi ddangosodd y gofalwr lun o Glyndwr Michael i mi ar y wal yn yr ysgol, a nes i ddigwydd sylwi ar ddyddiad ei ben-blwydd.... 4 Ionawr sef union ddyddiad ein ymarfer cyntaf ni! Mi ges i ias oer lawr fy nghefn!"

Bydd sioe gynradd Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch, Y Dyn na Fu Erioed, i'w gweld ym mhafiliwn yr Eisteddfod nos Fawrth, 26 Mai.