Diwrnod Cymru Fyw yng Nghei Connah

Cei Connah
Image caption Yr economi a swyddi yw'r prif bynciau yng Nghei Connah

Tan heddiw o'n i erioed wedi bod yng Nghei Connah. Mi o'n i wedi clywed mai lle diwydiannol ydy o gyda sawl ffatri fawr yn yr ardal yn rhoi pres ym mhocedi'r bobl leol.

Ond o'n i ddim wedi disgwyl gweld cymaint o beilonau a rheini mor agos at y tai.

Cymysgedd o stadau tai newydd, fflatiau a thai unigol hen sydd ar hyd y stryd fawr y dref.

Mae yna lefydd yn gwerthu ceir, dodrefn, sawl siop gornel ac ambell i dafarn. A thipyn o fynd a dod dros yr awr ginio.

"Heb os, yr economi a swyddi yw'r prif bynciau fan hyn o ystyried problemau economaidd y gorffennol," meddai Gohebydd Seneddol BBC Cymru James Williams.

"Ac mae'r ymgeiswyr yn dweud mai pynciau datganoledig fel iechyd ag addysg sydd yn cael eu trafod ar y stepen drws."

Drws nesa' mae Shotton, ble mae gan UKIP swyddfa. Maen nhw'n targedu'r etholaeth yma sydd wedi bod yn draddodiadol Llafur.

Nifer ddim am bleidleisio

Ond wrth holi rhai yn yr ardal mi oedd nifer yn dweud nad oedden nhw am bleidleisio o gwbl.

Mi edrychodd un fam ifanc arna i mewn panic wrth i mi ofyn iddi am yr etholiad. "Does gen i ddim syniad!" meddai.

"Dwi ddim yn gwybod dim am y peth" meddai merch ifanc arall. "Mae taid yn fy mhlagio fi am y peth ond dw i byth yn trafferthu pleidleisio."

"Pan fyddai yn hŷn, oed mam a dad - mae'n siŵr wnâi bleidleisio," meddai merch arall oedd yn eistedd ar fainc yn cael sgwrs efo'i ffrind.

Doedd ei ffrind ddim wedi gwylio'r dadleuon teledu. "Dw i'n ofalwraig. Does gennai ddim amser i wylio teledu!" meddai.

Image caption "Mae'r wlad yn eithaf llawn. Mae angen rhoi cap ar y boblogaeth," meddai Wesley Rawson

'Dim syniad beth sy'n mynd ymlaen'

UKIP oedd yn mynd a phryd un dyn canol-oed oedd wedi cael llond bol ar Lafur. "Dyw Llafur ddim yn gwneud dim byd o gwmpas fan hyn."

Ac mi oedd Wesley Rawson, 24 oed, yn ystyried rhoi ei bleidlais iddyn nhw hefyd. "Mae'r wlad yn eithaf llawn. Mae angen rhoi cap ar y boblogaeth."

Ond mae'r myfyriwr yng Ngholeg Cambria hefyd yn ystyried y Ceidwadwyr am ei fod o'n teimlo ei bod nhw wedi trio datrys problemau'r wlad a dydy hynny meddai, "ddim yn digwydd dros nos".

"Mae rhai o ffrindiau fi yn dweud 'Dydw i ddim yn pleidleisio am neb'. Does dim syniad gyda nhw beth sy'n mynd ymlaen," meddai Sam Johnson, 18 oed sy'n byw yn Fflint.

Y sylw yma neu "Rydw i am roi fy mhleidlais i UKIP" ydi'r hyn mae ei ffrindiau yn dweud wrtho os ydyn nhw yn siarad am yr etholiad. Ond yn ôl Sam, sydd hefyd yn astudio yn y coleg, dydyn nhw ddim yn gwybod beth mae UKIP yn ei gynrychioli. Dydy o ddim yn licio Farage na'i blaid.

Eisiau codi cyflogau pobl fel ef sydd yn cael y lleiafswm mae'r bachgen ifanc. Mae'n gweithio 18 awr yr wythnos ac yn dweud ei fod wedi bod yn chwilio am ryw bedwar mis cyn cael gwaith. Mi oedden nhw yn gofyn am gymwysterau yn Starbucks meddai, "jyst i neud coffi!"

'Ddim yn siŵr'

Dydy Sarah Shotton sydd yn gweithio i'r mudiad meithrin ddim yn siŵr eto pwy i bleidleisio ar eu cyfer. "Does 'na ddim lot yn mynd rownd y tai 'ma sydd yn gwneud o yn fwy anodd i ddewis," meddai.

Mae Jill Pritchard yn cytuno gan ddweud blynyddoedd yn ôl fod gan y pleidiau fws, ac mi oedden nhw yn siarad gyda phobl. "Mae'n haws rhoi nhw [taflenni] trwy'r post!" meddai.

Image caption Dyw Sarah Shotton (chwith) a Jill Pritchard (dde) ddim yn siŵr eto pwy sydd am gael eu pleidiais

Er bod Harri Owen-Jones, sydd wedi byw yn yr ardal ers 1968, yn bwriadu pleidleisio, mae o fel sawl un arall yn teimlo bod y pleidiau i gyd yn addo llawer. Mae o'n rhoi dyfyniad i fi - "Mae addewidion yn rhad, mae eu cyflawni nhw yn ddrud."

Mi fyddai o yn hoffi os byddai gwleidyddion yn defnyddio'r biliynau sydd yn cael ei rhoi i gadw llongau tanfor ar gyfer pethau eraill fel y gwasanaeth iechyd ac addysg.

Mae'n darogan mai Llafur fydd yn cadw'r sedd yn yr etholaeth yma. Ac er y ffanffer ynglŷn ag UKIP dyna ydy safbwynt nifer o sylwebyddion gwleidyddol eraill hefyd.