Wrecsam yn penodi Gary Mills fel eu rheolwr newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Gary Mills wedi ei gadarnhau fel rheolwr newydd Wrecsam.
Mewn cynhadledd i'r wasg nos Fawrth, cafwyd cadarnhad y byddai Mills, 53 oed, yn ymuno â'r clwb o Gateshead.
Fe wnaeth y Dreigiau roi'r sac i'w rheolwr blaenorol Kevin Wilkin y mis diwethaf ar ôl colli i North Ferriby yn rownd derfynol Tlws FA Lloegr.
Mills oedd yn gyfrifol am arwain Efrog i ennill yr un tlws, a dyrchafiad o'r Gyngres yn 2012, a chymerodd reolaeth o Gateshead ym mis Medi 2013.
Fe orffennodd y clwb yn y 10fed safle yn y gyngres eleni, un safle yn uwch na Wrecsam.
Roedd adroddiadau bod Mills wedi bod yn trafod gyda Tranmere Rovers yn ogystal.
Carl Darlington oedd wedi bod yn rheoli ar y Cae Ras dros dro, wrth i'r clwb chwilio am reolwr newydd.