Gwasanaeth ambiwlans wedi 'troi cornel'
- Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi "troi cornel" wrth ymateb i alwadau brys, yn ôl ei bennaeth.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos gwell ymateb i'r galwadau mwyaf brys am y trydydd mis yn olynol.
Dywedodd y prif weithredwr Tracy Myhill bod ysbryd a phresenoldeb staff wedi gwella a bod llai o oedi yn trosglwyddo cleifion i ysbytai.
Mae cynllun prawf - cynllun Explorer - yn yr ardal oedd yn perfformio waethaf yn y cymoedd wedi arwain at welliant mawr mewn llai na mis.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 65% o ambiwlansys yn ymateb i'r galwadau mwyaf brys o fewn wyth munud.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth 52.9% o ambiwlansys gyrraedd y targed yma, o'i gymharu â'r ffigwr o 51.2% ym mis Chwefror
Ond ffigyrau mis Rhagfyr y llynedd oedd y gwaethaf ers i gofnodion ddechrau, gyda'r ffigwr yn 42.6%.
Mae'r gwasanaeth nawr yn cyhoeddi'r amseroedd ymateb i'r galwadau 999 sy'n cael eu hystyried yn ddifrifol.
Ym mis Chwefror, cafodd 62.7% o'r galwadau yma eu hateb o fewn wyth munud.
Roedd y ffigwr wedi codi i 65.3% ym mis Mawrth.
'Cyfeiriad cywir'
"Rwy'n gweld gwelliant parhaus," meddai Ms Myhill wrth BBC Cymru.
"Fe ddywedais i 'mod i eisiau trawsffurfio'r corff. Fis ar ôl mis, rydyn ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir.
"Rwy'n gweld gwahaniaethau mawr yn y gwasanaeth - mewn cymhelliant staff, mewn perthynas gyda byrddau iechyd, mewn trosglwyddo cleifion i ysbytai ac yn addysgu'r cyhoedd i ddefnyddio'r gwasanaeth dim ond pan fo rhaid.
"Does dim un peth yn sefyll allan - mae ysbryd a phresenoldeb staff yn gwella, mae recriwtio'n mynd yn dda ac mae'r oedi yn trosglwyddo cleifion yn lleihau."
Yn y cyfamser, mae cynllun i geisio gwella amseroedd ymateb yn yr ardaloedd sy'n perfformio waethaf hefyd wedi dangos gwelliannau.
Mae cynllun Explorer wedi bod yn cadw ambiwlansys Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful o fewn ffiniau'r ardal, yn hytrach na bod hefyd ar gael i helpu ardaloedd eraill.
Y canlyniad yw bod y nifer o ambiwlansys sy'n ymateb i alwadau brys o fewn wyth munud wedi cynyddu o 46.2% i 60% mewn llai na mis.