Etholiad 2015: Beth am y bleidlais lwyd?
- Cyhoeddwyd

Un o'r carfanau sy'n cael eu targedu fwyaf gan y pleidiau gwleidyddol ydi pleidlais y bobl hŷn, sy'n cael ei alw yn "bleidlais lwyd".
Mae'n debyg bod dwywaith gymaint o bobl hŷn yn pleidleisio nag o bobl ifanc, ac fe ges i gyfle i holi rhai o bensiynwyr Sir Conwy sydd â chwarter o'r boblogaeth dros 65 oed - y ganran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru.
Gyda mwy o bobl hŷn yn pleidleisio na phobl ifanc - mae'r gwleidyddion yn gweld gwerth i'w pleidlais.
Ond pa mor ddu a gwyn yw'r bleidlais lwyd?
Yn ôl Iwan Williams o Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, "mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad enfawr i gymunedau ac economïau ledled Cymru.
"Mae pobl hŷn - fel mae'r comisiynydd yn dweud yn aml - werth biliwn o bunnoedd i'r economi yma yng Nghymru yn flynyddol. Felly mae'r angen i ateb anghenion pobl hŷn yn hollbwysig."
Pynciau llosg Llansannan
Llansannan ydi un o bentrefi gwledig Sir Conwy.
Mae'n bentref Cymreig iawn gyda 64% o bobl yn siarad Cymraeg, ond mae yna nifer o fewnfudwyr wedi dod i fyw yma hefyd, a llawer ohonyn nhw yn dysgu'r iaith mewn sesiynau siarad a phaned.
Ychydig o dan 2,000 o bobl sy'n byw yn y pentref, ac mae bron i 20% o rheiny dros 65 oed. Dyma rai o'r pynciau sy'n eu poeni nhw:
Betty Williams, 84 oed: Be sy'n poeni fwyaf arna'i ydi'r holl ddiodde' sydd yn y byd 'ma, a'r holl arian sy'n cael ei wario ar arfau. Mae o'n edrych yn debyg i mi nad ydyn nhw, 'wyrach, yn gwneud digon i gadw pobl yn saff, a gwario digon ar beth sydd o fudd i'r bobl ynde.
Dw i wastad yn cwyno am fy mhensiwn! Mae hi'n anodd iawn dal dau ben llinyn ynghyd efo'r pensiwn dw i'n meddwl. Ond 'da ni'n cael rhyw 'chydig bach mwy bob blwyddyn a weithia' fyddai'n edrych 'mlaen at gael dipyn go lew, ond fyddai'n ffendio 'mond rhyw 'chydig o geiniogau'n fwy dw i 'di gael.
Rhiannon Evans, 68 oed: Iechyd, wrth gwrs - ma' rhai pobl yn gorfod mynd dros y ffin i dderbyn triniaeth. Ma'r nyrsys a'r meddygon yn gweithio'n galed iawn mewn ysbytai. Dw i'n poeni hefyd am yr amgylchiadau yn Ysbyty Glan Clwyd ar hyn o bryd. 'Swn i'n hoffi cael mwy o ofal i bobl hŷn yn enwedig y 'rheiny sydd 'efo dementia, a'r gofal yn y cartref, hefyd.
Ifor Davies, 78 oed: Dw i ddim yn impressed, at all. Does 'na neb yn dod allan i siarad 'efo pobl. Dw i heb weld yr un politician tro 'ma. Amser maith yn ôl, oedden nhw i gyd yn dod i'r Llan i siarad 'efo pobl. Dyna 'di'r drwg.
Rhiannon Davies, 85 oed: Mae'r gwasanaeth bysiau yn ddrwg iawn yma, ynde. Dw i'n meddwl mai rhyw ddwywaith yr wythnos ma'n mynd i Ddinbych.
Sawl pwnc llosg yn Llansannan felly, ond tydi pawb ddim ar dân i bleidleisio.