Grym y Gymraeg i greu swyddi?
- Cyhoeddwyd

Beth sydd angen ei wneud i ddiogelu ein cymunedau Cymraeg? Mae nifer o bobl ifanc yn gadael eu bröydd genedigol i chwilio am waith. Meirion Davies o Fenter Iaith Conwy sy'n ystyried sut mae mynd ati i geisio newid y sefyllfa:
Troedle economaidd
Rwy'n credu fod iechyd y Gymraeg yn ddangosydd cymdeithasol effeithiol o sut mae economi Cymru wedi cael ei ddatblygu dros y canrifoedd.
Mae'r Cymry Cymraeg wedi bodoli fel cymdeithas ieithyddol a diwylliannol heb fawr o rym economaidd. Nid oes troedle economaidd digonol wedi bod i gynnig cynhaliaeth.
Gwaith, mwy na dim, sy'n hoelio pobl lawr i ddarn o dir. Os lwyddwn i wyrdroi sefyllfa'r Gymraeg byddwn hefyd yn creu economi a chymdeithas fwy cynaliadwy ac yn creu dyfodol hir-dymor i'r Gymraeg.
Allfudiad
Yn ôl gwaith ymchwil gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2010) ar ddemograffeg flynyddol siaradwyr Cymraeg, mae'r ffactorau sydd yn gwanhau sefyllfa'r Gymraeg yn deillio o ddiffyg cyfleoedd gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn ei dro yn arwain at sefyllfa o allfudo o Gymru.
Amcangyfrifwyd bod colled flynyddol o 3,000 o siaradwyr Cymraeg. Tua 1,600 yn uniongyrchol gysylltiedig efo allfudiad.
"Around a third of 1991's 15-year-old Welsh-speakers had migrated to England by 2001."
(Delyth Morris (2010) 'Welsh in the 21st Century', Cardiff; University of Wales Press)
Ar un llaw rydym yn dioddef allfudiad brawychus o bobl ifanc sydd yn medru'r Gymraeg, neu bobl ifanc sydd yn medru'r Gymraeg sydd ddim yn ei defnyddio. Tra ar y llaw arall rydym yn dioddef o ddiffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.
Mae hyn yn ein rhwystro i fyw ein bywydau beunyddiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond dwi'n credu mai dyma ble mae un o brif wendidau ac un o brif obeithion y Gymraeg yn gorwedd.
Mae modd i ni newid y sefyllfa.
Trosglwyddo Iaith
Mae addysg Gymraeg - sydd ar gynnydd - yn creu mwy a mwy o siaradwyr bob blwyddyn ac mae modd cynyddu'r raddfa trosglwyddo iaith o un genhedlaeth i'r llall trwy gynlluniau fel Twf.
Mae yna hefyd gynlluniau penodol gan gyrff amrywiol i annog a hwyluso'r defnydd o'r iaith.
Mae datblygiadau diweddar o ran y Gymraeg wedi rhoi statws i'r iaith. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cryfhau'r ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwelwn hwn fel gyriant i'r angen am Farchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg fydd yn cyplysu sgiliau efo anghenion gwasanaeth.
Ar hyn o bryd nid oes cynllun penodol sydd yn dylanwadu ar ffactorau megis mewnfudo, allfudo a gwerth economaidd y Gymraeg. O'r wybodaeth yr ydym wedi ei chasglu drwy weithio yn gymunedol ar draws Cymru, mae sawl her yn bodoli ar hyn o bryd sydd angen eu taclo:
•Yn hanesyddol mae'r Gymraeg wedi dioddef o ddiffyg statws economaidd
•Nid yw'r sgil o siarad Cymraeg yn cael ei gydnabod gan ganran uchel o gyflogwyr
•Mae siaradwyr Cymraeg ifanc yn gadael Cymru a'u bröydd genedigol i chwilio am waith
•Mae nifer fawr sydd yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn colli'r iaith oherwydd diffyg cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle tu hwnt i addysg ffurfiol
•Does dim trosglwyddo iaith yn digwydd o fewn nifer o deuluoedd oherwydd diffyg statws a gwerth i'r Gymraeg.
•Mae anhawster cyson i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg
•Mae nifer isel iawn o ddysgwyr yn dod yn rhugl yn y Gymraeg
Calondid
Yn galonogol, mae esiamplau yn bodoli o sefyllfaoedd yn rhoi gwerth economaidd i'r Gymraeg mewn rhai ardaloedd, fel Caernarfon a Chaerdydd e.e. lle gwelir cynnydd yn y canran o siaradwyr Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011.
Yn achos y Mentrau maent yn cyflogi cannoedd o bobl yn lleol i gynnig gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg berchnogi sectorau pwysig yn eu hardaloedd.
Ceir enghreifftiau penodol o'r Mentrau yn dylanwadu ar y nifer a'r canran o weithwyr mewn meysydd penodol trwy ddatblygu prosiectau a chynlluniau ar sail anghenion a chyfleoedd lleol.
Gwelwn, er enghraifft, yn y maes gweithgareddau awyr agored yn y Gogledd ac yn y meysydd gofal plant a chwarae yn y De a gwasanaethau cyfieithu cymunedol.
Mae'r un peth yn wir am fudiadau a chyrff eraill sydd yn cyflogi a chreu cyfleoedd gwaith cyfrwng Cymraeg. Eto mae yna botensial enfawr i greu mwy o swyddi a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg, mewn mwy o feysydd, mewn mwy o ardaloedd.
Ydych chi'n cytuno gyda Meirion?