Carreg filltir i ganolfan £44m
- Published
Bydd seremoni'n cael ei chynnal ddydd Iau, flwyddyn cyn agor canolfan arloesol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn 2016 bydd canolfan ymchwil i ddelweddu'r ymennydd yn agor ar gost o £44m.
Dywedodd y brifysgol mai hwn yw'r prosiect mwyaf costus yn hanes y brifysgol.
Yn ôl yr Athro Derek Jones, pennaeth y ganolfan, hon fydd y ganolfan fwyaf yn Ewrop ac fe fydd "yn hwb enfawr i ymchwil i sut mae'r ymennydd yn gweithio."
Nod ymchwil y ganolfan, fydd yn agor yng ngwanwyn 2016, fydd helpu gwyddonwyr i ddeall achosion clefydau fel dementia a sgitsoffrenia.
Bydd y ganolfan newydd bedair gwaith yn fwy na'r un bresennol.
Bydd 32 o swyddi newydd yn cael eu creu - ac mae'r cyfleusterau yn debygol o ddenu ymchwilwyr o bedwar ban byd.
Mae disgwyl y bydd meddygon hefyd yn defnyddio'r offer i fapio ymennydd cleifion yn fwy manwl cyn llawdriniaethau cymhleth.
Bydd y cyfleusterau hefyd ar gael i'w defnyddio gan gwmnïau sy'n datblygu cyffuriau a thriniaethau i fesur eu heffaith ar yr ymennydd.
Yn ôl yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor y Coleg Biofeddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd - mae'r prosiect yn cynrychioli strategaeth "ymosodol" newydd gan y Brifysgol, sy'n canolbwyntio ar feysydd ble gall y brifysgol gystadlu gyda'r gorau yn y byd.
"Mae angen i ni ragori hyd yn oed yn fwy aml y dyddiau hyn i gadw i fyny â chyflymder y newid sydd mewn technoleg" meddai.