Achub person o dân yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd person ei achub o do tŷ oedd ar dân yng Nghaerdydd.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r tŷ yn Ffordd Theobald, Treganna am tua 22:45 ddydd Mercher.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod pedwar o bobl wedi derbyn triniaeth gan barafeddygon.
Credir bod y tân wedi'i achosi'n ddamweiniol.