Tanau: Arestio mwy mewn 10 diwrnod nag mewn blynyddoedd
- Published
Mae mwy o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad â thanau gwair yn y 10 diwrnod diwethaf nag "mewn tair i bedair blynedd", yn ôl un swyddog tân.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Andrew Thomas, o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, bod y bobl wedi cael eu harestio yn dilyn 900 o danau ym mis Mawrth ac Ebrill.
Clywodd cyfarfod arbennig ddydd Mercher y byddai mwy o archwiliadau cymunedol, a defnyddio mwy ar gamerâu cylch cyfyng, er mwyn ceisio atal rhagor o bobl rhag cynnau tanau.
Mae'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau bod 22 o bobl wedi eu harestio yn y bythefnos ddiwethaf.
Mae Taclo'r Taclau yn cynnig £5,000 am wybodaeth ynglŷn â phobl sy'n cynnau tanau.
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Ebrill 2015
- Published
- 23 Ebrill 2015
- Published
- 21 Ebrill 2015
- Published
- 21 Ebrill 2015
- Published
- 20 Ebrill 2015
- Published
- 16 Ebrill 2015
- Published
- 26 Mawrth 2015
- Published
- 22 Mawrth 2015