Colli 60 o swyddi yn Nhreffynnon
- Cyhoeddwyd

Bydd ffatri gemegau yn Sir y Fflint yn cau, gan olygu bod 60 o swyddi'n cael eu colli.
Mae ffatri Albany Molecular Research Inc (AMRI) yn Nhreffynnon yn cyflenwi gwasanaethau datblygu cemegau.
Yn dilyn cyfnod ymgynghorol, mae'r cwmni yn dweud y bydd y gwaith yn y ffatri yn dod i ben erbyn diwedd 2015.
Dywedodd AMRI y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn y ffatri yn symud i safleoedd eraill.
Dywedodd llywydd cwmni AMRI, William S Marth: "Roedd hwn yn benderfyniad anodd ac mae'n effeithio ar aelodau o'r tîm sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i AMRI.
"Byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod cau'r safle yn Nhreffynnon yn broses mor esmwyth â phosib i'n cwsmeriaid a'n gweithwyr".
Dywedodd y cwmni yn y gorffennol nad oedd y safle wedi gweithio fel sianel rhwng Ewrop a'r UDA ac nid yw bellach yn cydfynd â "chyfeiriad strategol newydd" y cwmni.
Straeon perthnasol
- 12 Chwefror 2015