Carchar i ddau ddyn am ffrwydro peiriannau arian
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi eu carcharu at ôl cyfaddef ffrwydro peiriannau arian parod yn ne Cymru i ddwyn miloedd o bunnau.
Cafodd Russell Bennett, 21, a Benjamin Barrett, 30, y ddau o Fryste, eu gweld ar gamerâu cylch cyfyng yn pwmpio nwy i mewn i'r peiriant cyn ei ffrwydro.
Fe wnaeth y ddau ddwyn dros £80,000 ac achosi gwerth £200,000 o ddifrod.
Cafodd y ddau eu dedfrydu i gyfanswm o 16 o flynyddoedd dan glo am achosi ffrwydradau oedd yn debygol o beryglu bywydau, a dau gyhuddiad o ladrata.
Fe welodd Llys y Goron Caerdydd luniau CCTV o silindrau nwy yn cael eu cysylltu i gangen o fanc Barclays yn Nhrefforest ym mis Hydref 2014.
Munudau'n ddiweddarach fe wnaeth y ffrwydrad achosi i'r peiriant chwythu ar hyd derbynfa'r banc. Cafodd £45,000 ei ddwyn wrth i Barrett dorri i mewn i dderbynfa'r banc.
Fe wnaeth y ddau ddwyn o beiriant arall mewn digwyddiad tebyg wythnos yn ddiweddarach ym Mhen-y-bont, gan ffrwydro'r peiriant arian yno hefyd a chymryd £36,000.
Cafodd y ddau eu dal ar ôl i'w DNA gael ei adael ar silindr nwy gafodd ei adael ger un o'r banciau.
Cafodd Barrett ei garcharu am wyth mlynedd a hanner, tra bod Bennett wedi ei ddedfrydu i saith mlynedd a hanner dan glo.