Saith Diwrnod
- Cyhoeddwyd

Catrin Beard sydd yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.
A ninnau'n agosáu at ddiwedd cyfnod estynedig o drafod ac ymgyrchu gwleidyddol, yr wythnos hon mi dynnodd @EinCymraeg sylw ar Twitter at wers gyfarwydd, sy'n ymddangos mewn rhifyn o gylchgrawn y Gymraes o'r 1850au.
Er bod amser yn brin, eto y mae "amser i bob peth ac i bob amcan dan y nefoedd" os iawn drefnir ef.
Cyfarwyddiadau mewn 'ceginyddiaeth' i 'wraig dda' sydd dan sylw yn y darn: 'Dylai y wraig dda pan yn darfod ag un pryd, fod yn barod i ddechreu ei darpariadau at y nesaf.
Bydded y crochan neu y berwedydd ganddi wrth y tân, er cadw dwfr cynnes yn barhaus, yr hyn sydd braidd bob amser yn angenrheidiol er cysuron teuluaidd.
Dywed hefyd bod gwraig dda yn deall y gellir gwneud rhyw ddefnydd o bob peth ac y gellir defnyddio llawer peth i fwy nag un diben. Bydd i'r wraig dda baratoi gwledd ddanteithiol o'r hyn a daflai y slwt o'r neilltu.'
Ie, wel, cyngor da i ni gyd fanna, yn y dyddiau hyn o gyni a llymder.
A chyngor sydd gan Alex Jones ar wefan Cymru Fyw hefyd, i'r miloedd o bobl ifanc sy'n wynebu artaith arholiadau dros y misoedd nesaf. Er wn i ddim faint o ddisgyblion a myfyrwyr Cymru fydde o'r un anian â hi chwaith.
Wrth gofio'n ôl at ei dyddiau'n astudio, roedd hi'n drylwyr iawn, meddai, a doedd hi ddim yn meindio adolygu. Mae'n cofio gofalu cydbwyso adolygu gyda phethau eraill, ac mae'n pwysleisio mor bwysig yw cymryd hoe a chofio bwyta.
Sy'n ddigon gwir wrth gwrs, ond yn fy mhrofiad i, cael y bobl ifanc i edrych ar eu llyfrau yn y lle cynta di'r broblem fwya, nid cael hoe i ffwrdd ohonyn nhw…
… a hynny am fod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn pethau eraill - fel cerddoriaeth er enghraifft.
Yn Golwg, mae Aled Sam yn trafod y cynnydd mawr ym mhoblogrwydd recordiau feinyl gyda mwy a mwy o bobl yn dewis eu prynu. Gadewch i ni hen godjars fod yn onest meddai, nid 'dewis' finyl wnaethon ni yn y 1960au.
Doedd dim dewis, ac er mai drwy ddulliau gwahanol mae'n gwrando ar gerddoriaeth erbyn heddiw, mae'n gweld eisiau'r ddefod sydd ynghlwm â'r recordiau.
Ar ôl cynilo arian a phrynu'r record - ei hagor hi, a gwerthfawrogi'r pecyn fel llyfr yn eich llaw; y clawr, y gwaith celf, y geiriau, y manylion dibwys, diolchiadau ag ati, yn creu darlun.
Ac wrth wrando eilwaith, neu ganwaith, byddai eich ffefrynnau o blith y caneuon yn newid wrth i chi ddod yn gyfarwydd â nhw, a dyna'r wers bwysig o sylweddoli nad oeddech chi wastad yn gwybod beth oeddech chi moyn cyn ei gael e.
Oedd, medd Aled, roedd angen amser ac amynedd i werthfawrogi record hir newydd.
'Iach iawn'
Yn ôl Gruff Rhys o'r Super Furry Animals yn Golwg, mae'r sîn gerddorol yng Nghymru'n ymddangos yn iach iawn o safbwynt y recordio a'r caneuon.
Ond mae cyngherddau yn prinhau - yn ôl Gruff, mae pawb adre ar eu cyfrifiaduron ac yn cadw'n heini yn hytrach nag ymgynnull yn gymdeithasol i yfed mewn gigs.
Ond y penwythnos hwn, bydd Gruff a'r grŵp yn perfformio mewn tair noson yng Nghaerdydd, yn canu llu o ganeuon o'r ugain mlynedd ddiwethaf, fel rhan o'u taith gyntaf ers chwe blynedd.
Ac mae Gruff yn egluro sut aed ati i ddewis y caneuon i'w cynnwys yn y set - mi wnaed y cyfan drwy bleidlais. Mae SFA meddai yn cael ei redeg fel pwyllgor clasurol Cymreig.
Go dda wir!