Casnewydd: Penodi Terry Butcher yn rheolwr
- Cyhoeddwyd

Cyn-gapten Lloegr, Terry Butcher yw rheolwr newydd clwb pêl-droed Casnewydd.
Mae Butcher yn cymryd lle Justin Edinburgh - adawodd y clwb fis Chwefror i fynd i Gillingham.
Bydd y rheolwr dros-dro, Jimmy Dack yng ngofal y gêm yn erbyn Rhydychen ddydd Sadwrn.
"Dw i wrth fy modd mod i wedi cael y cyfle i weithio i glwb ffantastig fel Casnewydd," meddai Butcher wrth wefan y clwb."