Dedfryd oes am lofruddiaeth carchar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 23 oed, laddodd y dyn oedd yn rhannu cell gydag o yng ngharchar Caerdydd, wedi ei ddedfrydu i garchar am oes.
Bydd rhaid i Colin Capp dreulio o leia' 16 mlynedd yn y carchar am lofruddio Darren Thomas, 45 oed.
Fe ymosododd Capp ar Mr Thomas tra roedd yn cysgu yn eu cell yn y carchar.
Cafodd Mr Thomas ei drywanu dros 100 o weithiau gyda beiro, ond bu farw wedi i fag plastig gael ei glymu o amgylch ei ben.
Ffynhonnell y llun, South wales police
Roedd Colin Capp yn y carchar wedi achosion o gynnau tân yn fwriadol, pan lofruddiodd Mr Thomas.
Straeon perthnasol
- 30 Ebrill 2015