Ffatri silicon i gau yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Pure Wafer wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n dechrau ailgynhyrchu ar eu safle yn Abertawe.
Cafodd y ffatri technoleg uwch oedd yn cyflogi 130 ei chau yn dilyn tân difrifol ym mis Rhagfyr.
Mae'r cwmni newydd ddod i gytundeb am daliadau yswiriant yn dilyn y tân ar y safle yn Llansamlet.
Roedd y ffatri yn cynhyrchu offer silicon ar gyfer sglodion cyfrifiaduron.
Bydd y gwaith yn cael ei adleoli i ffatri yn Arizona.
Mae'r cwmni wedi dechrau cyfnod o ymgynghori gyda'r gweithwyr.
Mewn datganiad dywed Pure Wafer eu bod wedi gwneud y penderfyniad "ar ôl ystyriaeth ofalus ynglŷn â'r costau o ailadeiladu'r ffatri, a hefyd y gost o brynu peiriannau arbenigol yn lle y rhai a gollwyd.
"Hefyd roedd yn rhaid ystyried yr amser byddai hyn yn ei gymryd a'r ffaith bod rhai o gwsmeriaid safle Abertawe eisoes wedi dod o hyd i gyflenwyr newydd."
Does dim manylion wedi eu rhwyddhau am y setliad yswiriant, ond yn ôl y cwmni doedd o ddim yn ddigon i'w galluogi i ailafael yn y gwaith.
Dywed Cyngor Abertawe eu bod yn hynod o siomedig gyda'r cyhoeddiad a'u bod am gael cyfarfod brys gyda'r cwmni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2014