Lleoedd lliwgar Caerffili a'r Cylch

Castell Caeffili
Image caption Castell Caeffili - yr ail gastell mwyaf ym Mhrydain - a'i dŵr cam enwog

O Nelson i Grymlin a Fleur-de-lis, mae 'na rai trefi a phentrefi yn ardal Eisteddfod yr Urdd Caerffili sy'n berchen ar enwau anarferol iawn. Aeth Cymru Fyw ar drywydd rhai o'r straeon a'r ystyron diddorol tu ôl i ambell un ohonyn nhw.

Rhymni

Mae nifer o sillafiadau gwahanol wedi bod o'r afon Rhymni dros y blynyddoedd - Remni yn 1101, Rumeya yn 1274, Rompney yn 1314, Rempny yn 1340. Oherwydd y sillafiadau sy'n cynnwys y llythyren 'p', mae'n bosib y daw'r enw o'r gair Hen Gymraeg 'rhwmp', sef 'taradr' neu 'ebill'. Mae pobl felly yn tybio mai ystyr yr enw yw 'afon sy'n tyllu fel taradr' i ddisgrifio sut y mae'r afon wedi tyllu neu gerfio'i ffordd drwy'r cwm.

Crymlyn

Ei ystyr yw 'llyn crwm', sef llyn sydd â thro ynddo. Mae llyn o siâp tebyg ar lawr y dyffryn, ger y bont. Daw'r fersiwn Saesneg Crumlin o'r Gymraeg - sillafiad Saesneg gan luniwr map oedd ddim yn gwybod sut i sillafu'r Gymraeg!

Image copyright Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Image caption Darlun mosaic yng Nghrymlyn o hanes glofaol yr ardal

Coed Duon

Nid yw'r coed yn yr ardal yn ddu mewn gwirionedd, ond yn hytrach, mae'r enw yn golygu fod y coed yn drwchus a thywyll. Cofnodwyd yr enw fel Coed Dduon ar fapiau Sir Fynwy tua chanol y 19eg ganrif. Pan gafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei greu yn 1996, daeth hi'n amlwg fod yna nifer o amrywiadau ar yr enw - Y Coedion, Coed-Duon, Coed Duon, Y Coed-Duon, Coed-Duon. Yn ffodus, ni chafodd arwydd ffordd oedd yn ei enwi fel Du Pren erioed ei ddefnyddio!

Image caption Yr Arglwydd Nelson - mae'n debyg fod tafarn yn y pentre' wedi ei enwi ar ei ôl

Nelson

Yn 1803, ymwelodd yr Arglwydd Nelson â'r ardal, ddwy flynedd cyn y frwydr enwog yn Trafalgar. Oherwydd hynny, Lord Nelson oedd yr enw gafodd ei roi ar dafarn a gafodd ei adeiladu ar ôl i byllau glo gael eu hagor yn yr ardal, ac mae'r pentref wedi ei enwi ar ôl y dafarn. Nid yw'r enw Cymraeg yn cael ei ddefnyddio, sef Ffos y Gerddinen (ffos+y+cerddinen). Math o goeden yw 'cerddinen' sydd yn gyffredin yn yr ardal, a sy'n rhoi'r enw Saesneg i bentref cyfagos Mountain Ash (Aberpennar) yng Nghwm Cynon.

Bargoed

Mae'r enw'n golygu 'ffin' - roedd yr afon ar y ffin rhwng dau gantref, flynyddoedd yn ôl. Mae'n siŵr ei fod yn rhannu'r un sail â 'bargod' neu 'fondo' sef eaves yn Saesneg. Dechreuodd y llythyren 'e' ychwanegol ymddangos yn sillafiad yr enw gan lunwyr mapiau tua 1629 - sy'n gwneud iddo swnio fel petai yn deillio o goed, ac felly yn debyg i enwau llefydd eraill yn yr ardal, fel Hengoed ac Argoed.

Image copyright Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Image caption Llancaiach Fawr - tŷ mawreddog, sy'n gartref i ysbryd yn ôl y sôn, yw cartref yr Eisteddfod eleni

Llancaiach Fawr

Nid cyfeirio at eglwys mae'r enw. Yn wahanol i enwau lleoedd eraill sy'n dechrau â Llan, nid oedd sant o'r enw Caeach - yn hytrach, mae'n siŵr mai fersiwn o 'glan' sydd yma. Mae hi'n bosib fod enw'r afon yn cynnwys yr elfen 'caer', fel ffurf o 'cau', gan fod yr afon Caeach ac afon Bargod Taf bron fel petaent yn amgáu Llancaiach Fawr a'r ardal o'i gwmpas. Cafodd ei alw yn Lancaiach Vaur mewn cofnodion Eglwysig yn 1795 ac fel Lancaiach ar fap o Forgannwg yn 1885.

Ystrad Mynach

Cwm llydan â gwaelod gwastad yw ystyr 'ystrad'. Mae nifer o theorïau ynglŷn ag ystyr 'mynach'. Efallai ei fod yn dod o 'min' ac 'ach' - 'min' yn golygu ymyl neu ffin ac 'ach' sef hen air am gors - 'ystrad ar ymyl y gors'. Ond mae hefyd chwedl leol ynglŷn â mynach a ffödd o Gastell Caerffili ar ôl cael perthynas â merch ifanc y teulu Ffrengig a oedd yn byw yno. Cafodd ei ddal a'i grogi ar goeden yn yr ystrad.

Image caption Fleur-de-lis - enw a roddodd Ffrancwyr yr ardal ar y pentref, gan eu bod yn hiraethu am eu cartref

Fleur-de-lis

Mae'r enw Cymraeg, Trelyn, yn tarddu o 'anheddiad ger y llyn', oherwydd clwstwr o ffermydd ar lan yr afon. Mae'r enw Ffrangeg, sef yr enw sy'n cael ei ddefnyddio amlaf, yn golygu 'lili'. Cafodd y pentref ei enwi yn yr 17eg ganrif gan yr Hueguenotiaid o Ffrainc a oedd wedi dianc oherwydd erledigaeth grefyddol. Roedd tafarn yn y pentref yn dyddio o 1831 o'r enw 'Fleur-de-lis' a thafarn o'r enw 'Trelyn Arms' hefyd, nes iddo gael ei ddinistrio mewn tân. Heddiw, mae'r bobl leol yn cyfeirio ato fel Flower.

Cwmcarn

Enw gwreiddiol y pentref oedd Abergwyddon, yn ôl mapiau o Sir Fynwy yn 1817. Ond erbyn 1820 roedd wedi ei ailenwi yn Cwmcarn, ar ôl Nant Carn sy'n llifo drwy'r ardal. Mae'n debyg mai'r rheswm dros y newid yn yr enw oedd bod gorsaf-feistr o Loegr yn cael trafferth ynganu Abergwyddon, ac felly cafodd enw symlach ei ddewis pan agorodd y rheilffyrdd.

Image copyright Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Image caption Mae Cwmcarn yn enwog am ei choedwig ac yn denu miloedd o feicwyr a cherddwyr bob blwyddyn

Rhydri

Mae tarddiad yr enw yma hefyd wedi achosi dadlau dros y blynyddoedd, ac mae wedi cael ei sillafu nifer o ffyrdd gwahanol hefyd - fel Rutheri yn 1254, Rothered yn 1314, Reddery yn 1476, y Rydri tua 1566, Mynidd Ruddry yn 1747 a Ruddry yn 1833. Mae yna awgrym fod yr enw yn dod o'r gair Cymraeg 'rhydd', sef sut mae'r afon Rhymni yn llifo drwy'r cwm. Neu efallai ei fod yn dod o'r gair 'rhudd' sef hen air am y lliw coch, neu 'rhwd' - cyfeiriad at liw gwely'r afon a'i glannau.

Senghenydd

Mae '-ydd' yn cael ei ddefnyddio yn aml ar ôl enwau personol yn Gymraeg i nodi bod y tir yn eiddo i unigolyn, megis Meirionnydd neu Eifionydd. Felly mae'n debyg fod yr enw yn golygu 'tir neu diriogaeth Sangan'. Mae nifer o wahanol sillafiadau wedi eu defnyddio dros y canrifoedd - Seinhenit tua 1179, Seynghenyth yn 1271, Senghenyth yn 1314, Seignhenith Suptus et Supra Cayach yn 1578-84. Mae Senghenydd yn adnabyddus oherwydd damwain lo enfawr yno ar 14 Hydref 1913, pan laddwyd dros 400 o ddynion gan danchwa danddaearol yng nglofa'r Universal.

Image caption Cofeb i gofio canrif ers tanchwa Senghenydd a ddadorchuddwyd ym mis Hydref 2013

Caerffili

Mae'r dre' yn dyddio yn ôl i'r 13eg ganrif, os nad cynt, ac adeiladwyd y castell rhwng 1268 ac 1271 gan Gilbert de Clare. Mae yna ddadlau ynglŷn â phwy neu beth oedd Ffili, ond mae hi'n bosib bod yr enw Caer Ffili yn cyfeirio at y gaer Rufeinig a oedd ar dir y castell. Yn 'Archaeologica Cambrensis' yn yr 1930au, roedd erthygl yn nodi darganfyddiad carreg o'r 8fed ganrif ger Castell Ogwr a oedd yn coffáu esgob o'r enw Ffili - ai hwn oedd y 'Ffili' oedd yn cael ei gyfeirio ato? Ymddangosodd y dref ar y rhan fwyaf o fapiau'r ardal am ganrifoedd - fel Caerfilly yn y 'Chorographia Britanniæ' yn 1741 ac fel Caerphilly yn 'Ellis's English Atlas' yn 1766.

Am ddiffiniadau mwy o leoedd yn yr ardal, darllenwch y llyfryn Enwau Lleoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.