Diwrnod Cymru Fyw yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Doedd Caerdydd ddim wedi deffro'n llwyr wrth i mi gerdded ar hyd ei strydoedd y peth cyntaf bore 'ma.
Mi oedd ambell i siop wrthi yn agor eu drysau, sawl lori yn dadlwytho nwyddau a rhyw deimlad ei bod hi'n cymryd seibiant am funud cyn i'r hwrli bwrli gychwyn go iawn unwaith eto.
Mi oedd na rhai yn eu siwtiau ar ei ffordd i'r gwaith, eraill yn gafael yn dynn mewn cwpanau coffi carbod a sawl un yn gwisgo clustffonau. Ffenomen newydd y byd modern.
Wrthi yn disgwyl i siop ddillad agor oedd Jessica Fraiser, 25 oed o'r Barri - nid er mwyn gwario ei harian ond i ddechrau diwrnod o waith.
Mi oedd hi'n llawn brwdfrydedd wrth drafod gwleidyddiaeth gan ddweud nad oedd hi'n teimlo unrhyw deyrngarwch tuag at un blaid yn fwy na'r lleill. "Fydden i yn hoffi pe bydde gyda ni fwy o ddewis," meddai.
Mae'n son am y Gwyrddion a Phlaid Cymru ond yn dweud y byddai'n licio pe bydden nhw yn bleidiau cryfach, yn rhai allai arwain llywodraeth.
Mae mewn cyfyng-gyngor go iawn meddai ac yn anhapus bod y pleidiau yn gwrthod dweud gyda phwy y bydden nhw yn fodlon cydweithio os bydd hi yn senedd grog.
Disgwyl i fynd i'w waith mae hogyn ifanc arall hefyd.
Mi wyliodd o "15 munud o'r ddadl deledu" gyda thri o'r arweinwyr neithiwr gyda'i gefnder. Ond wedyn mi oedd ei gefnder wedi diflasu ac eisiau gwylio sitcom Americanaidd 'The Big Bang Theory'.
Diddrwg ddidda mae'r ymgyrch wedi bod yn ôl un dyn canol oed oedd wedi stopio i weld beth oedd yn digwydd ym mhabell y BBC.
Mae o eisiau gweld ryw foment pan fydd popeth yn newid ac un yn dod i'r brig. Ond dydy hynny ddim wedi digwydd eto, meddai.
Diffyg diddordeb oedd y thema eto wrth holi rhai ifanc yn Queen Street gyda dwy fyfyrwraig, Rhian Lloyd a Rhiannon Williams yn dweud wrthyf fod nifer maen nhw'n adnabod yn mynd i wneud pleidlais brotest.
"Dw i yn ystyried pleidleisio ar gyfer y Gwyrddion. Nhw yw'r unig rhai gyda diddordeb mewn newid hinsawdd. Ond dw i'n neud e yn eironig," meddai Rhiannon sy'n 18 oed.
"Mae angen iddyn nhw i gyd berfformio yn well," meddai Rhian. "Dyw'r wlad ddim yn well nag oedd hi."
Ond doedd pawb ddim yn teimlo fel hyn. Mi stopiodd un ferch fi wrth y babell i ofyn beth oedden ni yn gwneud. Mi oedd hi wrthi yn gwthio troli o fara i'r caffi gerllaw ac yn edrych ymlaen at gael bwrw ei phleidlais am y tro cyntaf. "Dw i'n 25 oed. Dylen ni di gwneud e cyn hyn."
Mae'n teimlo bod gan bobl fwy o ddiddordeb eleni. "O'n i mynd i roi fy mhleidlais i UKIP cyn iddyn nhw ddweud pethe chwerthinllyd."
Ond dydy hi ddim yn canmol y lleill chwaith gan ddweud bod hi'n anodd credu yr un ohonyn nhw.
Cryf ei farn oedd John Heath, cyn heddwas oedd yn magu ei gi ar y fainc tu allan. Disgwyl i'w wraig orffen siopa oedd o. "Dw i'n gobeithio y caiff y Ceidwadwyr fwyafrif clir," meddai. Mae'n teimlo eu bod nhw wedi gwneud gwaith da.
"Dw i'n meddwl eu bod nhw angen mwy o gyfle heb bod nhw yn cael eu dal nôl gan y Rhyddfrydwyr."
Mi siaradodd efo fi am sawl peth oedd yn ei gorddi - y lleihad yn nifer y plismyn, y diffyg parcio wrth ymyl ysbyty'r Heath a'r angen i newid polisi ar fewnfudo.
Heddiw mi oedd 'na sawl un wedi stopio ac edrych i weld beth oedd yn y babell wen. Dyw hyn ddim wedi digwydd ar hyd y daith.
Ac mi glywish i rhai heddiw yn trafod arweinwyr y pleidiau ymysg ei gilydd a hynny heb ddim un microffon yn agos.
Ydy hynny yn golygu bod gan bobl Caerdydd fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na gweddill Cymru? Go brin.
Yr un teimlad sydd yna yma ac oedd yna yn nifer o'r trefi es i iddyn nhw yn ystod y bythefnos ddiwethaf.
Oes mae 'na rhai yn mynd i bleidleisio a rhai yn frwd dros un blaid neu'r llall.
Ond ar y cyfan mae'r cyhoedd yn teimlo eu bod nhw wedi eu bradychu gan wleidyddion, yn teimlo eu bod nhw i gyd yn cynnig addewidion gwag.
Tan fod hynny yn newid, efallai na allwn i ddisgwyl i lawer mwy rhoi croes ar y papur pleidleisio.
Mae modd dysgu mwy am yr etholiad ar adran Etholiad 2015 Cymru Fyw.