Tad April Jones yn rhedeg i elusen i gofio am ei ferch
- Cyhoeddwyd

Mae tad y ferch bum mlwydd oed a gafodd ei llofruddio yn mynd i fod yn rhedeg ras 10k er cof am ei ferch, a hynny er budd teuluoedd pobl sydd ar goll.
Fe ddiflanodd April Jones ar 1 Hydref 2012 ym Machynlleth, ond ni chafodd ei chorff fyth ei ddarganfod.
Fe gafwyd dyn lleol, Mark Bridger, yn euog o'i llofruddio yn 2013, wedi i heddlu ddarganfod cannoedd o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Mae Paul Jones, 46 oed, yn gobeithio codi £1000 drwy gymryd rhan yn y ras redeg Miles for Missing People yn Llundain ddydd Sadwrn.
Mae Rachel Elias, chwaer cyn gitarydd y Manic Street Preachers Richey Edwards, hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad elusennol.
Dywedodd Mr Jones: "Rydym yn gwybod yn well 'na neb am y teimlad o anobaith llwyr pan fydd rhywun ydych yn ei garu un yn diflannu."