Marwolaeth rheilffordd yn achosi oedi

  • Cyhoeddwyd
tren first

Mae teithwyr rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd wedi wynebu oedi am gyfnod oherwydd marwolaeth dyn gafodd ei daro gan drên.

Fe ddigwyddodd hyn rhwng Gorsaf Parkway Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr a chafodd y lein ei chau.

Roedd bysus yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe o 16:15 ymlaen.

Ailagorodd y lein am 18:20.

Dywedodd yr Heddlu Trafnidiaeth fod y dyn wedi ei daro am 15:37.

Bu farw yn y fan a'r lle a dywedodd yr heddlu nad oedd y farwolaeth yn amheus.