Pryder am nodwyddau ar strydoedd Bethesda:
- Cyhoeddwyd
bethesda
Mae mam o Wynedd yn rhybuddio y bydd plant yn cael niwed difrifol yn hwyr neu'n hwyrach - gan nodwyddau hypodermig sy'n cael eu gadael ar strydoedd Bethesda.
Mae Nerys Edwards wedi dechrau ymgyrch ar wefan Facebook, wedi i'w mab pum mlwydd oed ddod ar draws nodwyddau yno ar ddau achlysur gwahanol.
Mae Heddlu'r Gogledd a Chyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r cwynion.
Mae amryw o drigolion Bethesda wedi dweud wrth BBC Cymru fod y sefyllfa yn y pentref wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i bobl symud i'r ardal.
Ond maen nhw hefyd yn gweld ei bod yn broblem sy'n wynebu ardaloedd tu hwnt i Fethesda.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud fod swyddogion o dîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor yn monitro'r sefyllfa, a'u bod wedi ail-ymweld â'r ardal yr wythnos hon.
Maent wedi cadarnhau na chanfuwyd unrhyw nodwyddau yn ystod eu harchwiliadau.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu'r gogledd: "Gwnaed Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol fod nodwyddau'n cael eu gadael o amgylch ardal Bethesda nôl ym mis Rhagfyr 2014.
"Mae lot fawr o waith wedi cael ei wneud yn y gymuned ar y cyd â Chyngor Gwynedd i drio gwella'r broblem, ac nid ydym wedi derbyn unrhyw adroddiad o nodwyddau'n cael eu gadael yn yr ardal ers hynny.
"Ni ddylai unrhyw un sy'n dod o hyd i nodwyddau gyffwrdd ynddynt dan unrhyw amgylchiadau a dylent gysylltu â Chyngor Gwynedd ar 01766 771000."