Austin Seven enwog ar werth

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Roger Shea
Disgrifiad o’r llun, Yr Austin Seven yn cael ei gludo ar gwch yn Jaleswar Odisha, India

Efallai bod ychydig o filltiroedd ar y cloc, ond mae hen gar Austin Seven a gafodd yrru o amgylch y byd yn cael ei werthu mewn arwerthiant yn Sir Benfro.

Fe wnaeth y car, math 2 salŵn, o 1937 y daith o 30,000 milltir yn y 1970au.

Ynghyd a'r car, mae 250 o ffotograffau a dyddiadur a gadwyd gan ei berchennog Roger Shea wrth iddo wneud y daith epig yn gynwysedig.

Bydd yr elw o'r gwerthiant yn mynd tuag at Eglwys Sant Jerome yn Llangwm.

Ffynhonnell y llun, Roger Shea
Disgrifiad o’r llun, Sir Herbert yn Yugoslavia

Dywedodd, perchennog presennol y car, yr awdur Pam Hunt,: "Mi fydd hi'n anodd ffarwelio a'r car.

"Ond wrth i mi fynd yn hŷn ac arthritis yn cydio ynof, rwyf wedi penderfynu ei werthu."

Mae'r dyddiadur o'r daith o amgylch y byd yn disgrifio teithio trwy Iran ac Afghanistan a chroesi'r llinell flaen yn y rhyfel rhwng India a Pacistan.

Mae'r arwerthiant elusennol yn digwydd yn Neuadd Bentref Llangwm nos Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Roger Shea
Disgrifiad o’r llun, Y car yn cael ei lwytho ar gwch yn Singapore