Merch fach i Ddug a Duges Caergrawnt

  • Cyhoeddwyd
Dug a Duges Caergrawnt gyda'r babi y tu allan i'r ysbyty

Mae Duges Caergrawnt wedi rhoi genedigaeth i ferch yn Ysbyty St Mary's yn Llundain am 08:34.

Roedd Dug Caergrawnt yn bresennol yn ystod yr enedigaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Kensington fod y babi yn pwyso 8 pwys tair owns, ac mae'r fam a'r babi yn iach.

Fe deithiodd i'r ysbyty mewn car gyda'r Tywysog William o Balas Kensington i Ysbyty St Mary's yn Llundain am 06:00.

Hwn y ail blentyn y cwpl brenhinol.

Fe wnaeth y Dug a'r Duges ymddangos tu allan i'r ysbyty gyda'r babi yn ddiweddarach dydd Sadwrn.

Yna fe adawodd y tri am Palas Kensington.

Cafodd eu plentyn cyntaf, George, ei eni yng Ngorffennaf 2013, pan oedd Dug Caergrawnt yn gweithio fel peilot yn Y Fali, Sir Fôn.

Dechreuodd hyfforddi yn Y Fali rhwng Ionawr 2010 a Medi 2013, a bu'r teulu yn byw ar yr ynys.

Yn y cyfamser, mae'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi cyhoeddi y byddant yn rhoi 2,015 o geiniogau aur i fabanod gafodd eu geni ar yr un diwrnod.

Bydd eu dyddiad geni yn cael eu hargraffu ar y darn arian.

Dywedodd llefarydd fod yn rhan o draddodiad i ddathlu genedigaeth gydag arian ar gyfer lwc dda.

Fe fydd yn rhaid i rieni babanod sy'n rhannu'r un dyddiad geni a'r dywysoges newydd gofrestru genedigaeth eu plentyn ar dudalen Facebook Bathdy Brenhinol er mwyn derbyn y rhodd.

Fe wnaeth y bathdy gynhyrchu darnau o arian i ddathlu bedydd y Tywysog Goerge ar Hydref 23, 2013.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y Bathdy Brenhinol yn cynhyrchu 2,015 o geiniogau