Abertawe 2-0 Stoke City
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe wnaeth gol gyntaf Jefferson Montero i Abertawe helpu'r tîm cartref sicrhau buddugoliaeth yn erbyn deg dyn Stoke City.
Ar ôl hanner cyntaf digon di -siâp, fe aeth Gylfi Sigurdsson yn agos at sgorio ddwywaith wrth i'r Elyrch reoli'r ail hanner.
Gyda 15 munud yn weddill fe wnaeth Montero daflu ei hun at y bel i benio croesiad Jonjo Shelvey i'r rhwyd.
Cafodd Marc Wilson ei anfon o'r cae am ei ail drosedd ar ôl llorio Montero.
Sgoriodd Ki Sung-yueng sgoriodd ail gol Abertawe i selio'r fuddugoliaeth.
Mae'r fuddugoliaeth yn cryfhau gafael Abertawe ar yr wythfed safle yn yr uwchgynghrair.