Pobl yn dwyn balŵns
- Cyhoeddwyd
Mae balŵns anarferol sy'n cael eu defnyddio er mwyn cadw gwylanod draw o dref Glan-Y-Môr yn cael eu dwyn gan aelodau o'r cyhoedd, yn ôl cyngor sir.
Cafodd y balŵns, sy'n debyg i gymeriadau o'r gêm fideo 'Angry-birds', eu creu er mwyn rhoi braw i wylanod.
Penderfynodd cyngor Sir Ddinbych eu gosod yn Y Rhyl, lle mae gwylanod yn creu problemau yn ystod y misoedd lle mae'r tymheredd yn codi.
Ond nawr dywed y cyngor fod y bobl yn cymryd y balŵns, er mwyn eu cadw.
"Rydym yn gwybod fod y balŵns anarferol yma yn edrych 'chydig yn wyrion, ond mae'n ymddangos fel bod nhw'n gweithio.
"Yr unig broblem yw, tra eu bod yn rhoi braw i wylanod, dydy'r un peth ddim yn wir am bobl - ac mae sawl un wedi diflannu."
Mae'r gem Angry brids yn hynod boblogaidd gyda miliynau yn chwarae'r gêm ar gyfrifiaduron, ffonau symudol a thabledi.
Dywedodd cyngor sir Ddinbych iddynt ddefnyddio barcud y llynedd er mwyn cadw gwylanod draw.
"Er ei bod yn gweithio'n dda, roedd yna broblemau wrth iddo fynd yn sownd a chael ei glymu mewn gwahanol wrthrychau. "