Nottingham Forest 1-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Empics
Fe wnaeth Eoin Doyle gymryd ei gyfanswm goliau ar gyfer y tymor i 30 wrth i ddeg dyn Caerdydd sicrhau buddugoliaeth yn Nottingham Forest.
Y chwaraewr canol cae Joe Ralls roddodd tîm y brifddinas ar y blaen.
Doyle, a gafodd ei arwyddo am £1 miliwn o Chesterfield yn Chwefror, sgoriodd yr ail gol gyda'i ben.
Ond cafodd golgeidwad Caerdydd, David Marshall, ei anfon o'r cae am roi ei ben yn wyneb Lascelles.
Funudau cyn diwedd y gêm fe wnaeth Dexter Blackstock sgorio i Forest, ond fe lwyddodd Caerdydd i sefyll yn gadarn a sicrhau'r fuddugoliaeth.
O ganlyniad i'r cerdyn coch bydd Marshall yn colli'r tair gem gyntaf y tymor nesaf.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Caerdydd yn gorffen y tymor yn safle 11.