Arestio dau ar ôl protest banc
- Published
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â throseddau yn ymwneud a'r drefn gyhoeddus ac o ymosod ar blismon yn ystod protest yng Nghaerdydd
Fe ymgasglodd nifer o bobl tu allan I Fanc HSBC yng nghanol y ddinas. Yn ôl yr heddlu roedd y brotest ar y cyfan yn un heddychlon.
Dywed yr heddlu fod y brotest wedi ei threfnu gan grŵp o Anarchwyr.