Roberts i ymuno â Harlequins?
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth canolwr Cymru Jamie Roberts ymuno â Racing Metro ym Mehefin 2013
Mae JamieRoberts wedi cytuno ar amodau i arwyddo cytundeb gyda Harlequins ar ôl Cwpan y Byd 2015.
Er mwyn i hynny ddigwydd bydd yn rhaid iddo gael caniatâd ei glwb presennol Racing Metro.
Pe bai Roberts, 28 oed, yn symud i Harlequins byddai'n golygu ei fod wedi troi ei gefn ar y cyfle i ail ymuno gyda'r Gleision.
Mae cytundeb presennol Roberts gyda Racing Metro yn dod i ben ym Mehefin 2016.