Tân: cyhuddo bachgen 15 oed
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol yng Nghasnewydd.
Cafodd ei gysylltu mewn digwyddiad a thân ar 22 Ebrill ar safle y tu cefn i Ysgol Uwchradd Llanwern.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod y bachgen wedi ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Cwmbrân ar Fai 19.